Ashdod

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o ddinas Ashdod heddiw
Golygfa ar y dref Balesteinaidd yn y 19eg ganrif

Dinas bumed mwyaf Israel, ar lan y Môr Canoldir yn ne'r wlad, yw Ashdod neu Isdud (Hebraeg: אַשְׁדּוֹד‎ Ashdod; Arabeg: اشدود‎, إسدود Isdud). Mae ganddi boblogaeth o 207,000 ac mae'n ganolfan ddiwydiannol ranbarthol bwysig. Porthladd Ashdod yw'r mwayf yn Israel a mewnforir tua 60% o fewnforion y wlad trwyddo.

Mae'r aneddiad cyntaf a wyddys yn Ashdod yn perthyn i gyfnod diwylliant Canaan yn yr 17eg ganrif CC. Cyfeirir at Ashdod 13 o weithiau yn y Beibl. Mae ei hanes yn ddrych i hanes Palesteina ei hun: roedd yn un o bum ddinas-wladwriaeth y Ffilistiaid a bu ym meddiant Teyrnas Israel, yr Ymerodraeth Rufeinig, yr Ymerodraeth Fysantaidd, y Croesgadwyr a'r Arabiaid. Sefydlwyd y ddinas fodern yn 1956 ar ôl i'r rhan fwyaf o'r Palesteiniaid lleol gael eu gorfodi i ymadael. Cafodd siarter dinas yn 1968.

Yn ystod Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948, defnyddiodd Byddin yr Aifft Isdud fel canolfan. Ar ôl ymladd trwm ildiodd yr Eifftwyr y ddinas i'r Israeliaid ar yr 28ain o Hydref. Ffôdd y mwyafrif o boblogaeth Balesteinaidd y dref gyda'r fyddin; arosodd rhai cannoedd ond cawsont eu gorfodi i ymadael gan Llu Amddiffyn Israel. Ymgartrefodd y ffoaduriaid mewn gwersylloedd yn Llain Gaza lle mae'r mwyafrif ohonynt yn dal i fyw heddiw[1] Rhoddwyd yr enw Hebraeg 'Ashdod' i'r dref a dechreuodd Iddewon ymsefydlu yno. Bu cynnydd o 150% ym mhoblogaeth Ashdod rhwng 1991 a 2000 wrth i tua 100,000 o bobl gyrraedd yno i fyw, yn bennaf o'r hen Undeb Sofietaidd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Benny Morris, The Birth of the Palestinian Refugee Problem Revisited, Cambridge Press 2004 pp.471

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: