Arthur Hughes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Golygydd a llenor Cymreig oedd Arthur Hughes (1878 - 1965), a gofir fel golygydd dwy flodeugerdd ac fel gŵr a gyfranodd yn sylweddol i fywyd diwyllianol Y Wladfa ym Mhatagonia.

Ganed Arthur Huhges yn Nhalsarnau, Meirionnydd yn 1878, yn fab i'r meddyg John Hughes Jones a'i wraig Annie, sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw barddol Gwyneth Vaughan.

Roedd yn feirniad llenyddol craff a ymddiddorai mewn barddoniaeth Gymraeg. Golygodd ddwy flodeugerdd bwysig yn y 1900au, sef Cywyddau Cymru (1909) a Gemau'r Gogynfeirdd (1910). Ymfudodd i Batagonia y flwyddyn wedyn a bu'n byw yno am weddill ei oes. Ysgrifenodd nifer o erthyglau i gylchgronau Cymraeg.

[golygu] Llyfryddiaeth

Golygydd
  • Cywyddau Cymru (Jarvis a Foster, Bangor, 1909; ail argraffiad, Bangor 1926)
  • Gemau'r Gogynfeirdd (1910)
Erthygl amdano
StubWales.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer