Apollodorus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae Apollodorus yn enw Groeg cyffredin. Erthygl am yr hanesydd a mytholegydd yw hon. Am y pensaer Syriaidd o dras Groegaidd gweler Apollodorus o Ddamascus. Am bobl eraill o'r un enw gweler Apollodorus (gwahaniaethu).
Am waith y "Ffug-Apollodorus" ar fytholeg Roegaidd, gweler Bibliotheke.

Ysgolhaig, hanesydd, mytholegydd a gramadegwr o Roeg oedd Apollodorus, a elwir weithiau yn Apollodorus o Athen (tua 180 CC - ar ôl 120 CC).

Roedd yn fab i'r ysgolhaig Groegaidd Asclepiades. Roedd yn ddisgybl i Diogenes o Fabilon, Panaetius y Stoïg, a'r grammadegwr Aristarchus o Samothrace. Ar ôl gweithio am gyfnod yn ninas Alexandria bu rhaid iddo ffoi oddi yno tua'r flwyddyn 146 CC, efallai i ddinas Pergamum, ac oddi yno i Athen. Am gyfnod credid mai ef oedd awdur y Bibliotheca, y llyfr enwocaf ar fytholeg y Groegiaid, ond gwyddys erbyn hyn ei fod yn waith diweddarach.

Gwaith llenyddol[golygu]

  • Cronicl (Χρονικά), hanes Groeg ar gân o gwymp Caerdroea yn y 12fed ganrif CC hyd tua 143 CC, wedi ei sylfaenu ar weithiau cynharach gan Eratosthenes o Cyrene. Cysegrir y gerdd i Attalus II Philadelphus.
  • Am y Duwiau (Περι θεων), hanes crefydd y Groegiaid a fu'n ffynhonnell bwysig i awduron diweddarach, e.e. Philodemus.
  • Traethawd mewn 12 llyfr ar Gatalog y Llongau yn Iliad Homer, sy'n dilyn gwaith Eratosthenes o Cyrene a Demetrius o Scepsis, ac sy'n astudiaeth o ddaearyddiaeth Homer dros y canrifoedd. Dibynnodd Strabo am hyn am lyfrau 8-10 ei Geographica.
  • Mae gweithiau eraill a gysylltir ag ef yn cynnwys gwaith ar etymoleg ac astudiaethau o waith y beirdd Epicharmus o Cos a Sophron.
  • Gwyddom am nifer o weithiau eraill gan Apollodorus sydd heb oroesi.
  • Am ei fod mor enwog yn yr Henfyd cafodd sawl gwaith diweddarach ei dadogi arno. Ef yw awdur traddodiadol y gwaith enwocaf ar fytholeg y Groegiaid a adnabyddir fel y Bibliotheca, neu'r Llyfrgell, ond gwyddom erbyn hyn na ellir fod yn waith dilys Apollodorus am ei fod yn dyfynnu awduron a ysgrifennai rhai canrifoedd ar ôl ei farwolaeth. Am hynny, cyfeirir at awdur y Bibliotheca heddiw fel y Ffug-Apollodorus.

Cyfeiriadau[golygu]

  • Simon Hornblower (gol.), The Oxford Classical Dictionary (Rhydychen, 1996)

Dolenni allanol[golygu]