Apollodorus o Ddamascus
Oddi ar Wicipedia
| Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a thynnir o ganlyniad. Mae'r tag yma yn rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. (06/12) |
- Am bobl eraill o'r un enw gweler Apollodorus ac Apollodorus (gwahaniaethu).
Pensaer Groegaidd o ddinas Damascus a fu'n gyfrifol am sawl gwaith pensaernïol yn Rhufain yn amser yr ymerawdwr Trajan oedd Apollodorus o Ddamascus (bu farw 129 OC).
Cafodd ei eni yn Damascus. Symudodd i weithio yn Rhufain lle daeth yn brif bensaer yr ymerawdwr Trajan. Cynlluniodd Fforwm Trajan, Cofgolofn Trajan a gweithiau eraill, ac ef hefyd a gynlluniodd y Pantheon, yn ôl pob tebyg. Ond syrthiodd dan wg yr ymerawdwr Hadrian, olynydd Trajan. Cafodd ei alltudio ganddo ac yn 129 OC fe'i dienyddwyd.
Mae ei draethawd ar beiriannau rhyfel, wedi ei chyflwyno i Hadrian, wedi goroesi.