Antiochus III Mawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Antiochus III yn y Louvre.

Chweched brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd oedd Antiochus III Mawr, Μέγας Ἀντίoχoς, (tua 241 - 187 CC).

Pan etifeddodd Antiochus III yr ymerodraeth roedd wedi colli tiriogaethau Asia Leiaf, Bactria a Parthia, ac yn fuan wedi iddo ddod yn frenin gwrthryfelodd y Mediaid.

Yn 221 CC bu Antiochus yn ymgyrchu yn y dwyrain, lle gallodd ail-feddiannu Media. Mewn ymgyrchoedd yn 219 CC a 218 CC cyrhaedddodd ffiniau yr Aifft, ond yn 217 CC gorchfygwyd ef gan Ptolemi IV, brenin yr Aifft ym Mrwydr Raphia, a bu raid iddo encilio. Yn 216 CC gorchfygodd Achaeus, oedd wedi gwrthryfela yn Asia Leiaf. Yn 212 CC gorfododd Xerxes, brenin Armenia i'w gydnabod fel uwch-frenin, ac yn 209 CC ymosododd ar Parthia, dan orfodi Arsaces II i ofyn am gytundeb heddwch. Yr un flwyddyn, bu'n ymgyrchu yn Bactria, cyn croesi yr Hindu Kush i ddyffryn Kabul.

Yn ddiweddarch bu'n ymladd yn erbyn yr Aifft eto, ac wedi ennill buddugoliaeth ym Mrwydr Panium yn 198 CC cymerodd feddiant ar Judea oddi wrth yr Aifft. Dechreuodd ymgyrch yn Asia Leiaf, a ddaeth ag ef i wrthdrawiad a Gweriniaeth Rhufain, a gwaethygodd y berthynas pan ddaeth y cadfridog Carthaginaidd Hannibal i lys Antiochus fel cynghorydd milwrol.

Yn 192 CC ymosododd Antiochus ar Wlad Groeg, ac etholwyd ef yn brif gadfridog Cynghrair Aetolia. Fodd bynnag gorchfygwyd ef gan y Rhufeiniaid ym Mrwydr Thermopylae yn 191 CC, a bu raid iddo encilio i Asia. Dilynodd y Rhufeiniaid ef yno, a gorchfygwyd ef gan Scipio Asiaticus ym Mrwydr Magnesia (190 CC). Yn ôl Cytundeb Apamea (188 CC), bu raid i Antiochus ildio ei holl diriogaethau i'r gogledd o Fynyddoedd Taurus.

Bu farw y flwyydyn ddilynol ar ymgyrch arall i'r dwyrain, tra'n ceisio ysbeilio teml yn Elymaïs, Persia. Dilynwyd ef gan ei fab, Seleucus IV Philopator.