192 CC

Oddi ar Wicipedia

3g CC - 2g CC - 1g CC
240au CC 230 CC 220au CC 210au CC 200au CC - 190au CC - 180au CC 170au CC 170au CC 160au CC 150au CC
197 CC 196 CC 195 CC 194 CC 193 CC - 192 CC - 191 CC 190 CC 189 CC 188 CC 187 CC


Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

  • Cynghrair Achaea yn ymateb i ymgais Sparta i adennill tiriogaethau coll trwy yrru llysgenhadaeth i Weriniaeth Rhufain. Mae Senedd Rhufain yn gyrru'r praetor Atilius gyda llynges a llysgenhadaeth dan Titus Quinctius Flamininus.
  • Byddin Achaeaidd dan Philopoemen a llynges dan Tiso yn anelu am Gythium. Mae'r Spartiaid yn gorchfygu'r llynges, ac wedi brwydr yn erbyn byddin Sparta tu allan i Gythium mae Philopoemen yn gorfod encilio i Tegea.
  • Mae ail ymosodiad Philopoemen ar Sparta yn fwy llwyddiannus; mae'n gorchfygu byddin Nabis, tyrannos Sparta. Mae Nabis yn apelio i Gynghrair Aetolia am gymorth, ond pan gyrhaedda 1,000 o ŵyr meirch Aetolaidd dan Alexamenus, maent yn llofruddio Nabis a meddiannu Sparta. Llwydda pobl Sparta i'w gorfodi i encilio o'r ddinas.
  • Philopoemen a'r fyddin Achaeaidd yn cipio Sparta, ac yn ei gorfodi i ymuno â Chynghrair Achaea.
  • Byddin yr Ymerodraeth Seleucaidd dan y brenin Antiochus III yn croesi i Wlad Groeg ar wahoddiad y Cynghrair Aetolaidd i wrthwynebu'r Rhufeiniaid.

Genedigaethau[golygu | golygu cod]

Marwolaethau[golygu | golygu cod]