Cynghrair Aetolia

Oddi ar Wicipedia
Tiriogaeth Cynghrair Aetolia 200 CC.

Cynghrair rhwng nifer o wladwriaethau Groegaidd wedi ei ganoli ar ddinasoedd Aetolia oedd Cynghrair Aetolia. Fe'i ffurfiwyd yn 370 CC i wrthwynebu grym cynyddol Macedon a Chyngrair Achea. Roedd wedi meddiannu Delphi erbyn 290 CC ac erbyn diwedd y 3edd ganrif CC roedd yn rheoli'r cyfan o ganolbarth Groeg heblaw Attica.

Yn ei flynyddoedd cynnar, ochrodd y cynghrair gyda Gweriniaeth Rhufain, gan gynorthwyo'r Rhufeiniaid i orchfygu Philip V, brenin Macedon ym Mrwydr Cynoscephalae yn 197 CC. Yn ddiweddarch, ochrodd gydag Antiochus III Mawr, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd yn erbyn Rhufain. Pan orchfygwyd Antiochus gan Rufain yn 189 CC bu raid i'r cynghrair dderbyn cytundeb heddwch â Rhufain oedd yn ei amddifadu o unrhyw rym gwirioneddol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Krzysztof Kęciek Kynoskefalaj 197 p.n.e (Warsaw: Bellona, 2002)