Allt-yr-ynn
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yn ninas Casnewydd yw Allt-yr-ynn. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 8,583.
Saif i'r gogledd-orllewin o ganol y ddinas, yn cynnwys yr ardal o amgylch y Ridgeway. Mae dwy gangen Camlas Sir Fynwy yn cyfarfod yn y gymuned yma, a cheir Neuadd y Ddinas, y Ganolfan Ddinesig a hen Neuadd y Sir yma. Yma hefyd mae prif safle Prifysgol Cymru, Casnewydd.