Alexander McQueen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Alexander McQueen
Ganwyd Lee Alexander McQueen
17 Mawrth 1969(1969-03-17)[1]
Hackney, Llundain, Lloegr
Bu farw 11 Chwefror 2010 (40 oed)
Mayfair, Llundain, Lloegr
Cenedligrwydd Baner Lloegr Seisnig
Addysg Central Saint Martins
Galwedigaeth Dylunydd ffasiwn
Rhieni Joyce
Gwefan http://www.alexandermcqueen.com

Dylunydd ffasiwn Seisnig oedd Alexander McQueen CBE (ganwyd Lee Alexander McQueen, 17 Mawrth 196911 Chwefror 2010),[2] a fu'n adnabyddus am ei dactegau sioc anghonfensiynol. Gweithiodd McQueen fel prif ddylunydd Givenchy am bum mlynedd cyn sefydlu labeli Alexander McQueen a McQ. Cafodd duluniadau dramatig McQueen eu gwisgo gan enwogion gan gynnwys Rihanna, Björk a Lady Gaga, a cawsont eu cymeradwyo. Ennillodd wobr Dylunydd Ffasiwn Prydeinig y Flwyddyn bedair gwaith.

Bywyd cynnar[golygu]

Ganwyd yn Hackney, Llundain, yn fab i yrrwr tacsi a'r ifengaf o chwech o blant.[1][3] Dechreuodd McQueen wneud ffrogiau ar gyfer ei chwiorydd pan oedd yn ifanc gan ddatgan y bu'n bwriadu dod yn ddylunydd ffasiwn.[4] Dywedodd mai un o'i atgofion cynharaf oedd pan ddarluniodd ffrog ar wal pan oedd yn dri oed, lle roedd y papur wal wedi dod i ffwrdd yn y tŷ cyngor lle roedd y teulu'n byw.[5]

Mynychodd McQueen Ysgol Rokeby a gadawodd gydag ond Lefel O mewn celf, a gadawodd yr ysgol yn 16 oed,[1] cyn gwneud prentisiaeth ar gyfer y teilwyr Savile Row Anderson & Sheppard. Wedi hynnu ymunodd â Gieves & Hawkes ac yn ddiweddarach y gwneuthurwyr gwisgoedd theatrig Angels and Bermans.[6]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2  Jess Cartner-Morley (19 Medi 2005). Boy done good. The Guardian. Adalwyd ar 11 Chwefror 2010.
  2.  Alexander McQueen, UK fashion designer, found dead. BBC (11 Chwefror 2010).
  3.  Obituary: Fashion king Alexander McQueen. BBC (11 Chwefror 2010).
  4.  Maysa Rawi (11 Chwefror 2010). A life in fashion: How Alexander McQueen became 'the most influential designer of his generation'. The Daily Mail.
  5.  Alexander McQueen Obituary. The Times. Adalwyd ar 11 Chwefror 2010.
  6.  Mark =Tran (11 Chwefror 2010). Fashion designer Alexander McQueen dies. The Guardian. Adalwyd ar 11 Chwefror 2010.

Dolenni allanol[golygu]


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.