Rihanna
| Rihanna | |
|---|---|
| Rihanna'n perfformio yn Nghanolfan Adloniant Brisbane yn 2008 | |
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Enw genedigol | Robyn Rihanna Fenty |
| Enw arall | RiRi[1] |
| Ganwyd |
Awst 2, 1988 |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | R&B, rap, dance, reggae |
| Galwedigaeth(au) | Cantores, model |
| Blynyddoedd | 2005 - presennol |
| Label(i) recordio | Def Jam Recordings |
| Gwefan | [1] |
Mae Robyn Rihanna Fenty (ganed 20 Chwefror, 1988),[2] sy'n perfformio o dan yr enw Rihanna (ynganer /riːˈɑːnə/), yn gantores a model o Barbados. Fe'i ganed yn Saint Michael, Barbados, cyn iddi symud i'r Unol Daleithiau pan oedd yn un-ar-bymtheg oed, er mwyn dilyn gyrfa ym myd cerddoriaeth, o dan arweiniad y cynhyrchydd recordiau, Evan Rogers. Yn ddiweddarach, arwyddodd gytundeb gyda "Def Jam Recordings" ar ôl iddi gael clywediad gyda phennaeth y cwmni ar y pryd, Jay-Z.[3]
Yn 2005 rhyddhaodd Rihanna ei halbwm stiwdio cyntaf, "Music of the Sun", a aeth i ddeg uchaf y Billboard 200. Llai na blwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd ei hail albwm A Girl Like Me, a aeth i bump uchaf siart albymau Billboard, gan rhoi ei rhif un cyntaf iddi gyda'r sengl "SOS". Aeth trydydd albwm stiwdio Rihanna, Good Girl Gone Bad (2007), i rif dau y diart Billboard 200. Cafodd dri sengl a aeth i rhif un yn yr Unol Daleithiau, "Umbrella", "Take a Bow" a "Disturbia", yn ogystal a "Don't Stop the Music". Enwebwyd yr albwm am naw Gwobr Grammy. Mae Rihanna wedi gwerthu dros ddeuddeg miliwn o albymau yn fydeang yn ei gyrfa o bedair blynedd yn unig.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Rihanna Biography. IMDb. Adalwyd ar 2009-07-30
- ↑ Rihanna » Biography. AllMusic. Adalwyd ar 2009-07-30
- ↑ Jay-Z's Picks: Teairra Mari, Rihanna and Ne-Yo. Shaheem Reid a Matt Paco. MTV News. Adalwyd ar 2009-06-06