Alborz
Cadwyn o fynyddoedd uchel yng ngogledd Iran sy'n ymestyn ar draws y wlad o'r ffin gydag Armenia i'r gogledd-orllewin i ben deheuol Môr Caspia ac sy'n cyrraedd wedyn hyd at y ffin gyda Affganistan a Turkmenistan yw'r Alborz (Perseg: البرز), a drawslythrennir fel Alburz neu Elburz weithiau hefyd. Gorwedd Mynydd Damavand, y mynydd uchaf yn Iran a'r Dwyrain Canol, yn y gadwyn hon.
Ffurfia cadwyn yr Alborz fur rhwng glannau Môr Caspia i'r gogledd a llwyfandir Qazvin-Tehran i'r de. Gyda lle o tua 60–130 km, mae ei rhannau uchaf yn y de yn sych gyda dim ond ychydig o goed, ond mae'r llethrau gogleddol, sy'n derbyn glawogydd o'r gogledd, yn wyrdd a choediog.
Mae sgïo a mynydda yn boblogaidd ac mae canolbarth y gadwyn yn denu nifer o ymwelwyr, yn enwedig o'r dinasoedd mawr fel Tehran, sy'n gorwedd yn agos i Fynydd Damavand, a Semnān.
Mae gan y copaon hyn ran bwysig ym mytholeg Zoroastriaeth.
Cynnwys |
Copaon [golygu]
Mynyddoedd Canolbarth yr Alborz [golygu]
| Mynydd | Uchder(m) |
|---|---|
| Damavand | 5671 |
| Kholeno | 4385 |
| Azad Kuh | 4375 |
| Nazer | 4350 |
| Paloon Gardan | 4250 |
| Koloon Bastak | 4200 |
| Sarakchal | 4150 |
| Varevasht | 4100 |
| Kharsang | 4100 |
| Tochal | 3960 |
| Mehrchal | 3920 |
| Atas hkuh | 3850 |
| Shah Neshin | 3850 |
| Binalud | 3211 |
| Sharbak | 1694 |
Mynyddoedd Gorllewinol yr Alborz [golygu]
| Mynydd | Uchder(m) |
|---|---|
| Sialan | 4250 |
| Shah Alborz | 4200 |
| Khashechal | 4180 |
| Naz | 4100 |
| Kahar | 4050 |