Hyrcania

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o Iran a'r gwledydd o'i chwmpas (yn cynnwys Turkmenistan), sy'n dangos lleoliad Hyrcania
Cwpan aur Hyrcanaidd a ddarganfuwyd yn Kalardasht, Mazandaran. Hanner cyntaf y mileniwm cyntaf OC.

Hyrcania oedd enw satrapi a orweddai yn nhiriogaethau presennol Golestan, Mazandaran a Gilan yn Iran a rhan o Turkmenistan, i'r de o Fôr Caspia. Enw'r Groegiaid hynafol ar Fôr Caspia oedd "Môr Hyrcania".

"Hyrcania" yw'r enw am yr ardal yn y cofnodion hanes Groeg. Addasiad yw'r enw Groeg o'r enw Hen Berseg Verkâna, a gofnodir ar arysgrif Behistun a wnaed ar orchymyn Darius Fawr, ynghyd ag ar arysgrifau cuneiform cynnar. Ystyr y gair Hen Berseg verkā yw "blaidd" (Perseg Diweddar: gorg) ac felly mae "Hyrcania" yn golygu "Gwlad y Bleiddiaid".

Gorweddai Hyrcania rhwng Môr Caspia, 'Môr Hyrcania' y Groegiaid, i'r gogledd a mynyddoedd Alborz i'r de a'r gorllewin. Roedd yr ardal yn adnabyddus am ei hinsawdd cynnes a'i ffrwythlondeb. I'r Persiaid hynafol roedd yn un o'r "gwledydd braf" a grewyd gan y duw goruchaf Ahura Mazda ei hun. I'r gogledd-ddwyrain, trwy Byrth Caspia, roedd Hyrcania yn agor ar wastadiroedd uchel Canolbarth Asia, cartref i lwythau nomadig, ac yn cael ei gwarchod o'r cyfeiriad hwnnw gan waith amddiffynnol Mur Mawr Gorgan.

Dolen allanol[golygu]