Mynydd Damavand
Oddi ar Wicipedia
| Mynydd Damavand Mynyddoedd Alborz |
|
|---|---|
| Llun | Mynydd Damavand yn y gaeaf |
| Uchder | 5,610m (18,406 troedfedd) |
| Gwlad | Iran |
Mynydd uchaf Iran a'r Dwyrain Canol yw Mynydd Damavand (Perseg: دماوند ; Kuh-e Damavand), a elwir hefyd yn Demavand neu Donbavand weithiau. Mae'n llosgfynydd tawel gyda lle arbennig ym mytholeg a llên gwerin Persia. Wedi'i leoli yng nghanol cadwyn Mynyddoedd Alborz (neu Elborz/Elburz), ger copaon Varārū, Sesang, Gol-e Zard a Mīānrūd, Damavand yw'r copa uchaf yn y Dwyrain Canol a'r llosgfynydd uchaf yn Asia gyfan. Gorwedd y mynydd ger arfordir deheuol Môr Caspia, yn Swydd Āmol, talaith Māzandarān, 66 cilomedr (41 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Tehran, prifddinas Iran. Mae'n 5,610 medr o uchder.

