Albert Uderzo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Albert Uderzo

Darlunydd llyfrau comig ac ysgrifennwr sgript Ffrengig yw Albert Uderzo (ganwyd 25 Ebrill 1927). Adnabyddir orau am ei waith ar gyfres comigion Astérix, ond darluniodd gomigion eraill yn ogystal, megis Oumpah-pah, a oedd hefyd yn waith ar y cyd gyda René Goscinny.

Bywyd cynnar[golygu]

Ganwyd Uderzo odan yr enw llawn Alberto Aleandro Uderzo yn Fismes (Marne, Ffrainc), yn fab i Silvio ac Iria, a oedd wedi ymfudo o'r Eidal yn ddiweddar cyn ei eni. Daw ei enw o bentref Eidaleg, Oderzo (Uderzo gynt), ble gellir dilyn ei goeden deulu. Fel plentyn, ei uchelgais oedd i ddod yn beirianydd awyrenau, er ei allu ym maes celf o oedran cynnar.

Fe gafodd Uderzo ddinasyddiaeth Ffrengig yn 1934, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe adawodd Paris am Lydaw tra'n ei arddegau, yno gweithiodd ar fferm a helpu ym musnes dodrefn ei dad. Blynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd yn bryd dewis lleoliad ar gyfer pentref Asterix, fe adawodd Goscinny y penderfyniad i Uderzo, a oedodd dim cyn dewis Llydaw.

Roedd Uderzo yn dechrau gyrfa llwyddianus fel arlunydd ym Mharis ar ôl y rhyfel yn 1945, gan greu gweithiau megis Flamberge a Clopinard, hen ddyn bychain â un coes a oedd yn ennill drost pob anhawster. Yn 1947-48 fe greodd gomigion eraill, megis Belloy ac Arys Buck.

Gweithio gyda Goscinny[golygu]

Yn ystod gweithio a theithio drost y blynyddoedd canlynol, cyfarfodd â René Goscinny yn 1951. Daeth y pâr yn ffrindiau da'n fuan, a penderfynont gweithio â'u gilydd yn 1952 yn swyddfa newydd y cwmni Belgaidd, World Press, ym Mharis. Eu creadigaethau cyntaf oedd Oumpah-pah, Jehan Pistolet a Luc Junior.[1][2] Yn 1958, fe addasont Oumpah-pah ar gyfer ei gyhoeddi ar ffurf cyfres o stribedi comig yng nghylchgrawn Tintin, er, rhedwyd ond hyd 1962.[3] Yn 1959, daeth Goscinny yn olygydd ac Uderzo yn gyfarwyddwr celfydd Pilote, menter newydd wedi ei anelu at blant hŷn. Fe gyflwynodd rhifyn cyntaf y cylchgrawn gymeriad Astérix i'r byd Ffrengig, ac roedd yn lwyddiant o'r cychwyn.[1][4] Yn ystod y cyfnod hwn, fe gydweithiodd Uderzo yn ogystal gyda Jean-Michel Charlier ar gyfres realistig Michel Tanguy, a ail-enwyd yn ddiweddarach yn Les Aventures de Tanguy et Laverdure.[1]

Roedd Astérix ar ffurf cyfres yn Pilote, ond fe gyhoeddwyd yr albwm cyntaf yn 1961, cyhoeddwyd albwm Astérix le gaulois (Asterix y Gâl) fel llyfr unigol. Erbyn 1967, roedd y comig wedi dod mor boblogaidd y penderfynnodd y pâr i neilltuo eu holl amser i'r gyfres. Wedi marwolaeth cynnar Goscinny yn 1977, fe gariodd Uderzo ymlaen i ysgrifennu a darlunio'r llyfrau ar ei ben ei hun, ond gweithiodd yn arafach, gan gyhoeddi llyfr pob 3-5 mlynedd i gymharu â'r 2 albwm y flwyddyn a gyhoeddwyd ynghyd â Goscinny. Mae'r credyd ar y clawr yn dal i ddweud "Goscinny ac Uderzo".

Teulu[golygu]

Cafodd Uderzo ferch, Sylvie Uderzo gyda'i wraig Ada. Yn ôl The Book of Asterix the Gaul, mae rhai yn dyfalu y seiliodd Uderzo gymeriadau Panacea a Zaza ar Ada a Sylvie, ond mae Uderzo ei hun yn gwadu hyn.

Cyflwynwyd llyfr Le ciel lui tombe sur la tête (Mae'r nen yn disgyn ar ei ben) ar cof ei frawd, Bruno Uderzo (1920-2004).

Achos llys yn yr Almaen[golygu]

Mae ymryson wedi codi yn yr Almaen, lle mae cwmni cyhoeddi Albert Uderzo, Les Éditions Albert René, yn honni fod rhai cwmnioedd technoleg cyfrifiadurol sydd â'u henwau yn orffen â "ix" (nid yn anghyffredin gyda cwmnioedd sy'n gweithio gyda system Unix) yn niweidio brandiau "Asterix" ac "Obelix".[5]

Gwobrau[golygu]

Yn ôl y wybodaeth sydd ar gael yn Index Translationum UNESCO, Uderzo yw'r 10fed awdur i gael ei gyfieithu amlaf o'r Ffrangeg, a'r trydydd amlaf yng nghomigion ffrangeg tu ôl i René Goscinny a Hergé.[6]

Ffynonellau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2  Lambiek Comiclopedia. Albert Uderzo.
  2.  Lagardère. Release of the 33rd Asterix volume.
  3.  Albert Uderzo. Asterix International!.
  4. (Ffrangeg) BDoubliées. Pilote année 1959.
  5.  Trademark Trouble: Obelix versus MobiliX.
  6. Index Translationum French top 10

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: