Asterix
- Gweler hefyd: Asterix (gwahaniaethu)
Cyfres o stribedi comig ydy Anturiaethau Asterix (Ffrangeg: Astérix neu Astérix le Gaulois),a ysgrifennwyd gan René Goscinny a darlunwyd gan Albert Uderzo (Fe gymerodd Uderzo drosodd yr ysgrifennu wedi marwolaeth Goscinny yn 1977). Ymddangosodd y gyfres yn y cylchgrawn Ffrengig Pilote am y tro cyntaf ar 29 Hydref 1959. Mae 33 llyfr comig wedi cael eu cyhoeddi yn y gyfres hyd 2008.
Mae'r cyfres yn dilyn hanesion pentref yng Ngâl hynafol, tra eu bod yn gwerthsefyll meddiannu'r wlad gan yr Rhufeiniaid. Maent yn gwneud hyn drwy ddefnyddio cymysgedd hudol, sy'n cael ei fragu gan eu derwydd, sy'n rhoi cryfder goruwchddynol i'r un sy'n ei yfed. Asterix, yw'r prif gymeriad ynghyd a'i ffrind Obelix, maent yn cael amryw o anturiaethau sy'n eu harwain i deithio o amgylch nifer o wledydd y byd, ond mae sawl llyfr wedi eu seilio o amgylch eu pentref.
Asterix yw un o'r cyfresi comig Ffrengig-Belgaidd mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae wedi cael ei gyfieithu i dros 100 o ieithoedd, gan gynwys y Gymraeg, ac mae'n fwyaf poblogaidd yng ngwledydd Ewrop. Mae Asterix yn llai adnabyddus yn yr Unol Daleithiau a Japan.
Mae llwyddiant y gyfres wedi arwain at nifer o'r llyfrau gael eu addasu'n ffilmiau; wyth wedi eu hanimeiddio, a thri gydag actorion byw. Mae hefyd nifer o gêmau yn seiliedig ar y cymeriadau, a mae'r parc thema Ffrengig, Parc Asterix, wedi ei seilio ar y gyfres.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Cyn creu cyfres Asterix, roedd Goscinny ac Uderzo eisioes wedi cael llwyddiant gyda'u cyfres Oumpah-pah, a gafodd ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Tintin.
Cyhoeddwyd Astérix yn wreiddiol ar ffurf cyfres Pilote, cyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 29 Hydref 1959.[1] Yn 1961, cysodwyd fel llyfr am y tro cyntaf Astérix le Gaulois. O hynny ymlaen, cyhoeddwyd llyfr yn flynyddol fel rheol.[2]
Pan fu farw Goscinny, cariodd Uderzo y gyfres ymlaen ar ei ben ei hun, ond yn llai rheolaidd. Nid yw straeon Uderzo wedi cael beirniadaeth cystal a'r rhai a gyd-ysgrifennodd gyda Goscinny. Mae Uderzo wedi datgan nad yw eisiau i unrhywun gario'r gyfres ymlaen ar ôl iddo farw, ewyllys tebyg i un Hergé ynglyn a'i gyfres ef, Anturiaethau Tintin.
[golygu] Rhestr teitlau
- Astérix le Gaulois (Cyhoeddiad cyntaf: 1959 - cyntaf mewn llyfr 1961) (Cymraeg: Asterix y Galiad, 1976, Dref Wen)
- La Serpe d'or (1960-1962)
- Astérix et les Goths (1961-1963)
- Astérix gladiateur (1962-1964) (Cymraeg: Asterix y Gladiator, 1977, Dref Wen)
- Le Tour de Gaule d'Astérix (1963-1965)
- Astérix et Cléopâtre (1963-1965) (Cymraeg: Asterix a Cleopatra, 1976, Dref Wen)
- Le Combat des chefs (1964-1966) (Cymraeg: Asterix a'r ornest fawr, 1980, Dref Wen)
- Astérix chez les Bretons (1965-1966) (Cymraeg: Asterix ym Mhrydain, 1976, Dref Wen)
- Astérix et les Normands (1966-1967)
- Astérix légionnaire (1966-1967)
- Le Bouclier arverne (1967-1968)
- Astérix aux Jeux Olympiques (1968-1968) (Cymraeg: Asterix yn y gemau Olympaidd, 1979, Dref Wen)
- Astérix et le chaudron (1968-1969)
- Astérix en Hispanie (1969-1969)
- La Zizanie (1970-1970)
- Astérix chez les Helvètes (1970-1970)
- Le Domaine des dieux (1971-1971)
- Les Lauriers de César (1971-1972) (Cymraeg: Asterix ym myddin Cesar, 1978, Dref Wen)
- Le Devin (1972-1972)
- Astérix en Corse (1973-1973)
- Le Cadeau de César (cyhoeddiad cyntaf mewn llyfr: 1974) (Cymraeg: Asterix ac anrheg Cesar, 1981, Dref Wen)
- La Grande Traversée (1975)
- Obélix et compagnie (1976)
- Astérix chez les Belges (1979)
- Le Grand Fossé (1980)
- L'Odyssée d'Astérix (1981)
- Le Fils d'Astérix (1983)
- Astérix chez Rahàzade (1987)
- La Rose et le Glaive (1991)
- La Galère d'Obélix (1996)
- Astérix et Latraviata (2001)
- Astérix et la rentrée gauloise (2003)
- Le ciel lui tombe sur la tête (2005)
[golygu] Cyfieithiadau
Mae'r tri prif lyfr wedi eu cyfieithu i drost 100 o ieithoedd a thafodieithoedd. Heblaw y Ffrangeg gwreiddiol, mae'r rhan fwyaf ar gael yn Estoneg, Saesneg, Iseldireg, Almaeneg, Daneg, Islandeg, Norwyeg, Swedeg, Ffinneg, Sbaeneg, Catalaneg, Basgeg, Portiwgaleg (a Portiwgaleg Brasil), Eidaleg, Hwngareg, Pwyleg, Romaneg, Groeg, Llydaweg, Twrceg, Slofeneg, Bwlgareg, Serbeg a Croateg. Heblaw ieithoedd cyfoes Ewrop mae nifer hefyd wedi eu cyfieithu i Esperanto, Indoneseg, Mandarin, Corëeg, Siapaneg, Bengaleg, Affricaneg, Arabeg, Hindi, Hebraeg, Ffrisieg, Lladin a Hen Roeg.
Yn Ffrainc, Ffindir, Gwlad Pŵyl ac yn arbennig yn yr Almaen, mae nifer wedi cael eu cyfieithu i dafodieithoedd lleol megis Alsaseg, Swabeg, Almaeneg Isel, Caswbeg, Sileseg, Savo, Careleg, Rauma a bratiaith Helsinki. Cyhoeddwyd rhifyn arbennig o'r llyfr cyntaf, Astérix le Gaulois, yn iaith lleol Portiwgal, sef Mirandeg.
Alun Ceri Jones a gyfieithodd y llyfrau Cymraeg a cyhoeddwyd hwy gan Wasg y Dref Wen.[3]
[golygu] Ffynonellau
- ↑ (Ffrangeg) BDoubliées. Pilote année 1959.
- ↑ http://www.scribd.com/doc/3469476/00-The-Complete-Guide-To-Asterix
- ↑ COFIO... Dyma 1977. BBC Cymru'r Byd.
- (Ffrangeg) Astérix publications in Pilote BDoubliées
- (Ffrangeg) Astérix albums Bedetheque
[golygu] Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol Asterix
- Asterix around the World – The many languages
- Asterix NZ– General Reference site for English speaking Fans
- The Asterix Annotations – album-by-album explanations of all the historical references and obscure in-jokes
- Alea Jacta Est (Asterix for grown-ups) Each Asterix book is examined in detail
- (Ffrangeg) Les allusions culturelles dans Astérix - Cultural allusions
- Asterix Wikia