Agincourt House, Trefynwy
| Agincourt House | |
|---|---|
Agincourt House yn 2009; bellach yn wag. |
|
| Gwybodaeth gyffredinol | |
| Cyfeiriad | Rhif 1 Agincourt Square |
| Tref neu ddinas | Trefynwy |
| Gwlad | Cymru |
| Dechrau adeiladu | 1624 |
Perthyn i ddechrau'r 17eg ganrif y mae Agincourt House, Rhif 1 Sgwâr Agincourt, Trefynwy, Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru. Mae'n adeilad nodedig gyda hanner ohono'n ffrâm bren.[1] Cofrestrwyd y tŷ hwn ym Mehefin 1952 fel adeilad Gradd II*.[2]
Mae'n un o 24 o adeiladau hanesyddol sydd ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.
Hanes [golygu]
Dros y blynyddoedd mae'r adeilad wedi'i adfer gryn dipyn. Ceir y dyddiad 1624 ar y taclen, ar ddarn o bren.[1] Mae'r llythrennau blaen o bobty'r dyddiad yn perthyn i William Roberts: ei ŵyr a adferodd Tŷ Drybridge gerllaw.
Dengys fod yma dŷ ar y safle hwn ar fap 1610 gan John Speed. Tydy'r ffrynt presenol, fodd bynnag, ddim mor hen, gan ei fod yn perthyn i ddiwedd y 19ed ganrif.[4] O tua 1830 hyd at ddiwedd y 18ed ganrif, siop-bob-dim ydoedd (neu ironmongers) a'i berchennog oedd Josiah Coates a weithiai hefyd fel gofaint, clochydd a gwneuthurwr hoelion. Yn ôl pob tebyg, mae'r cyn Brif Weinidog John Major yn ddisgynydd iddo. [angen ffynhonnell]
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, page 405
- ↑ Agincourt House, British Listed Buildings, adalwyd 25 Ionawr 2012
- ↑ Welsh Mayors Elect , Western Mail, 9 Tachwedd 1892
- ↑ Agincourt House 1 and 1a, Royal Commission on Ancient Monuments, adalwyd 25 Ionawr 2012