Afon Lloer
Oddi ar Wicipedia
Afon fechan yn y Carneddau yn Eryri yw Afon Lloer. Mae'n tarddu o lyn Ffynnon Lloer, ar lechweddau Pen yr Ole Wen a Carnedd Dafydd, ac yn llifo i lawr idros dir garw i mewn i ben dwyreiniol Llyn Ogwen. Gellir cyrraedd Ffynnon Lloer trwy ddilyn llwybr serth o ffermdy Tal-y-llyn Ogwen hyd lan yr afon.