Abaty San Steffan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ochr orllewinol yr Abaty

Eglwys fawr gyda phensaernïaeth Gothig ydy Eglwys Golegol San Pedr yn San Steffan, sy'n fwy adnabyddus o dan yr enw Abaty San Steffan. Fe'i lleolir yn San Steffan, Llundain, ychydig i'r gorllewin o Balas San Steffan. Dyma safle traddodiadol coroni a chladdu brenhinoedd Lloegr.

Cychwynnwyd ar y gwaith o godi'r Abaty presennol ym 1245 gan Harri III, brenin Lloegr a ddewisodd y safle gyda golwg ar fan i'w gladdu wedi ei farwolaeth.[1]

Ymhlith y rhai a gladdwyd neu a goffawyd yno y mae: Syr Winston Churchill, Oliver Cromwell, Charles Darwin, Charles Dickens, Benjamin Disraeli, Gabriel Goodman (o Ruthun), George Frederic Handel, David Livingstone a William Shakespeare.

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]


BlankMap-LondonBoroughs.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.