České Budějovice
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng nghanolbarth Gweriniaeth Tsiec yw České Budějovice (Almaeneg: Böhmisch Budweis). Mae'n brifddinas De Bohemia. Cafodd ei sefydlu yn 1265 gan y brenin Přemysl Otakar II. Yn ganolfan ddiwydianol sy'n gorwedd ar lannau Afon Vltava, mae ganddi boblogaeth o 98,876.
Lleolir Prifysgol De Bohemia yn y ddinas. Mae pobl enwog o České Budějovice yn cynnwys y sant Catholig John Neumann a'r cyfansoddwr Adalbert Gyrowetz.
Mae České Budějovice yn adnabyddus fel cartref gwreiddiol cwrw Budweiser (enw a ddaw o'r ffurf Almaeneg ar enw'r ddinas, Böhmisch Budweis).
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- Gwefan swyddogol y ddinas (Tsieceg, Almaeneg, Saesneg)
- Virtual show