Afon Vltava

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Vltava yn llifo heibio i hen gastell Prag

Afon yng Ngweriniaeth Tsiec yw Afon Vltava (hefyd Afon Moldau). Mae'n tarddu yn Fforest Bohemia, am y ffin â'r Almaen, ac yn llifo ar gwrs gogleddol yn bennaf i'w chymer ag Afon Elbe, ger Melnik. Mae'n ffynhonnell bwysig trydan dŵr. Ei hyd yw 434 km (270 milltir).

Tardda'r afon ym mryniau Fforest Bohemia ger tref fechan Vimperk. Mae'n llifo i gyfeiriad y de-ddwyrain i ddechrau a a thrwy lyn mawr artiffisial ger Vyšši Brod. Yn fuan ar ôl hynny mae hi'n troi i gyfeiriad y gogledd gan lifio heibio i sawl tref a dinas, yn cynnwys Česke Budějovice. Ceir sawl argae ar yr afon yn y rhan yma o'i chwrs. Mae'n cyrraedd Praha, prifddinas Gweriniaeth Tsiec, ac yn llifo trwy ganol yr hen ddinas heibio i sawl adeilad hanesyddol (gweler y llun). Tua 50 km ar ôl gadael Praha mae'r Vltava yn ymuno ag Afon Elbe ger Melnik, sy'n llifo wedyn trwy'r Almaen i aberu ym Môr y Gogledd.

Enwir yr ail o'r cerddi symffonig yn y gyfres Má Vlast gan y cyfansoddwr Tsiec gwlagarol Smetana (1824-1884) yn Vltava, darn o gerddoriaeth ramantaidd sy'n disgrifio cwrs yr afon ac sy'n fod i gynrychioli ysbryd Bohemia. Mae'n un o ddarnau cerddorol byr mwyaf adnabyddus y 19eg ganrif.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: