Passau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dinas yn nhalaith Bafaria yn ne'r Almaen yw Passau. Roedd y boblogaeth yn 50,644 yn 2006.

Saif Passau ger y ffîn ag Awstria. Gelwir hi y Dreiflüssestadt ("Dinas y tair afon"), gan fod afon Inn ac afon Ilz yn ymuno ag afon Donaw yma. Sefydlwyd y ddinas fel oppidum Celtaidd Boiodurum, yna bu'n sefydliad Rhufeinig Boiotro.

Dyddia'r eglwys gadeiriol, Dom Sant Stephan, o'r 15fed ganrif. Organ yr eglwys yma yw'r organ eglwysig fwyaf yn y byd, gyda 17,774 o bibellau.

Yr hen ddinas ac afon Inn, o Mariahilf.

Gweler hefyd[golygu]

  • Boii: y llwyth Celtaidd
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: