Almere
Oddi ar Wicipedia
Almere yw dinas fwyaf talaith Flevoland, yng nghanolbarth yr Iseldiroedd. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 178,884.
Adeiladwyd y ddinas o 1976 ymlaen, ar dir oedd wedi ei adennill oddi wrth y môr. Mae tair rhan i Almere, Almere Haven, Almere Stad ac Almere Buiten. Almere Haven yw'r rhan hynaf. Mae'r gwaith o adeiladu Almere Hout ac Almere Poort yn parhau.