Budweiser

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Defnyddir Budweiser am ddau fath gwahanol o gwrw. Y math gwreiddiol yw'r un sy'n cael ei gynhyrchu yn České Budějovice, (Budweis mewn Almaeneg), yn Bohemia, Gweriniaeth Tsiec. Gwerthir hwn dramor fel "Budweiser Budvar".

Defnyddiwyd yr enw "Budweiser" gan gwmni o Unol Daleithiau America, Anheuser-Busch, ar gyfer eu cwrw hwy, er nad oes fawr o debygrwydd rhyngddo a'r Budweiser Budvar gwreiddiol. Mae'r cwrw yma'n boblogaidd iawn yn yr Unol Daleithiau ac yn cael ei allforio,

Beer template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gwrw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of the Czech Republic.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y Weriniaeth Tsiec. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato