Chwarel Coed Cochion

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Coed Cochion
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd0.04 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.805567°N 4.418526°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Chwarel Coed Cochion wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 1 Ionawr 1981 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 0.04 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle. Mae daeareg y safle wedi cadw ffosiliau Cyn-Gambriaidd prin.[2][3]

Y dystiolaeth gynharaf a ddarganfuwyd o organebau amlgellog[golygu | golygu cod]

Yn ôl y Grŵp Llinell-Amser Systemau Mwynau (Timescales of Mineral Systems Group) fe gafwyd hyd yn y chwarel ffosiliau hynaf o fywyd cymhleth a hynny drwy'r byd.[4] Trwy osod y ffosiliau hyn o greaduriaid tebyg i slefrod môr ar linell amser hanesyddol, dywed archaeolegwyr ac anthropolegwyr eu bod wedi gallu olrhain cyfnod allweddol yn esblygiad yr anifeiliaid cyntaf ar y Ddaear. Y ffosiliau hyn, felly, yw'r dystiolaeth gynharaf a ddarganfuwyd o organebau amlgellog.

Mae'r safle yn enghraifft brin iawn drwy'r byd o gofnodion ffosil Cyn-Gambriaidd - mwy na 0.5 biliwn o flynyddoedd CP (cyn y presnnol) - a geir yn y graig waddodol lleidfaen (siltstone), llychlyd. Mae nifer o ffosilau o greaduriaid mediwsoid - sy'n edrych yn debyg i'w gilydd, ond efallai ddim mewn gwirionedd i'w cael yno, yn ogystal â llwybrau bwydo creaduriaid eraill. Y dystiolaeth yw bod y safle ar un adeg yn draethlin tywodlyd, lleidiog, lle claddwyd ffawna meddal.[3][5]

SoDdGA (SSSI)[golygu | golygu cod]

Mae SoDdGA Chwarel Coed Cochion yn chwarel fechan iawn o 0.4 hectar (0.99 acer) sydd wedi'i leoli tua 1 filltir (1.6 km) i'r de o Langynog ac 1.3 milltir (2.1 km) i'r gogledd o Lan-y-bri, Sir gaerfyrddin, i'r gogledd-ddwyrain o Aber Taf.[2][3]

Math o safle[golygu | golygu cod]

Fel nodwyd, dynodwyd y safle oherwydd agweddau daearegol arbennig o bwysigrwydd cenedlaethol. Er enghraifft efallai i’r statws gael ei ddynodi oherwydd fod ynddo strata’n cynnwys ffosiliau hynod o greaduriaid asgwrn cefn neu ffosiliau o bryfaid neu blanhigion. Ceir dau fath o safle ddaearegol: rhai a ddaeth i’r wyneb drwy gloddio dyn a safleoedd naturiol bregus yn cynnwys ffurfiau tirweddol, haen bach o waddod neu ogof arbennig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013
  2. 2.0 2.1 "MAGIC Map Application - Coed Cochion Quarry". DEFRA MAGIC Map. DEFRA.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Site of Special Scientific Interest, Carmarthenshire, Coed Cochion Quarry" (PDF). Natural Resources Wales."Site of Special Scientific Interest, Carmarthenshire, Coed Cochion Quarry" (PDF). Natural Resources Wales.
  4. [https://www.itv.com/news/wales/2024-01-17/oldest-signs-of-life-could-have-been-discovered-in-carmarthenshire www.itv.com; adalwyd 17 Ionawr 2024.]
  5. "Your Special Site and its Future - Coed Cochion Quarry" (PDF). Natural Resources Wales.