Valladolid
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Valladolid city |
Poblogaeth | 297,459 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Jesús Julio Carnero |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Peter de Regalado, Virgin of San Lorenzo |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Q107554246, Q107554257 |
Sir | Talaith Valladolid |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 197,910,000 m² |
Uwch y môr | 701 metr |
Gerllaw | Afon Pisuerga |
Yn ffinio gyda | Zaratán, Villanubla, Fuensaldaña, Cigales, Santovenia de Pisuerga, Cabezón de Pisuerga, Castronuevo de Esgueva, Renedo de Esgueva, Cistérniga, Laguna de Duero, Boecillo, Viana de Cega, Villanueva de Duero, Simancas, Arroyo de la Encomienda, Peñaflor de Hornija, Medina de Rioseco, La Mudarra, Valdenebro de los Valles, Villalba de los Alcores, Mucientes, Robladillo, Torrelobatón, Ciguñuela |
Cyfesurynnau | 41.651981°N 4.728561°W |
Cod post | 47001–47016 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Valladolid |
Pennaeth y Llywodraeth | Jesús Julio Carnero |
Mae Valladolid yn ddinas yng ngogledd-orllewin Sbaen, sy'n brifddinas cymuned ymreolaethol Castilla y León a thalaith Valladolid. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 319,943.
Sefydlwyd y ddinas yn y 12g, a daeth yn brifddinas Teyrnas Castilla ac yna rhwng 1601 a 1606 yn brifddinas Sbaen. Yn 1346 rhoddodd y Pab Clement VI awdurdod i greu Prifysgol Valladolid. Yn 1561 dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas gan dân, ac fe'i hail-adeiladwyd gan y brenin Philip II. Symudwyd y llys brenhinol i Madrid, yna yn ôl i Valladolid am gyfnod, ond wedyn yn 1606 i Madrid eto, yn barhaol y tro hwn. Yn ystod y rhyfeloedd Napoleonaidd, Valladolid oedd y ddinas a ddewisodd y Ffrancwyr fel pencadlys i'w milwyr. Ar 31 Mai 1808 cododd y trigolion mewn gwrthryfel yn eu herbyn. Llwyddodd y Ffrancwyr i'w gorchfygu wedi ymladd ffyrnig, ac ni ryddhawyd y ddinad hyd 1812 pan gipiwyd hi gan fyddin dan arweiniad Dug Wellington.
Yn Valladolid y bu farw Christopher Columbus yn 1506, a'i gladdu yno ym mynachlog Sant Ffransis, er i'w gorff gael ei sumud wedyn. Yma y ganed Juan de Torquemada yn 1388 a Philip II, brenin Sbaen, yn 1527, ac yma yr oedd Miguel de Cervantes yn byw pan gyhoeddodd Don Quixote yn 1605.