Zakya Daoud

Oddi ar Wicipedia
Zakya Daoud
GanwydJacqueline David Edit this on Wikidata
1937 Edit this on Wikidata
Bernay Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Moroco Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Llenor a newyddiadures Forocaidd yw Zakya Daoud (enw gwreiddiol, Jacqueline Loghlam née David; ganed 1937, Bernay, Ffrainc). Yn Ffrances yn enedigol, daeth yn ddinesydd Morocaidd yn 1959. Mae hi'n awdur sawl llyfr am Foroco a'r Maghreb gyda phwyslais ar ran merched mewn hanes ac yn y gymdeithas.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cychwynodd Zakya Daoud ar ei gyrfa newyddiadurol yn 1958 ar wasanaethau radio Moroco ac wedyn daeth yn newyddiadurwr lleol ym Moroco i'r cylchgrawn materion cyfoes wythnosol dylanwadol Jeune Afrique. Dyma'r cyfnod pan ddechreuodd arwyddo ei herthyglau gyda'r enw barddol 'Zakya Daoud', enw a fabwysiadwyd ganddi yn lle 'Jacqueline Loghlam' yn nes ymlaen.

Yn 1966, daeth yn olygydd Lamalif, cylchgrawn Morocaidd a roddai le i ysgrifenwyr fynegi eu barn ar amryw bwnc diwylliannol a hanesyddol mewn ysgrifau a thraethodau. Yn y 1970au, gyda llywodraeth y brenin Hassan II yn gweithredu polisïau llym i atal y chwith wleidyddol a chyfyngu ar hawliau dinesig, roedd Lamalif yn dal i gyhoeddi erthyglau beirniadol o'r llywodraeth er gwaethaf bygythiadau ond yn 1988 cafodd ei gau o'r diwedd gan yr awdurdodau. O 1989 hyd 2001, mewn alltudiaeth ym Mharis, cyfranodd Zakya Daoud at sawl gyhoeddiad Ffrangeg yn cynnwys Maghreb-Machrek, Arabies a Le Monde diplomatique. Ers hynny mae hi wedi canolbwyntio ar ysgrifennu ffuglen, yn cynnwys y nofel hanesyddol Zaynab, reine de Marrakech (2004), sy'n ailgreu gyrfa liwgar Zaynab an-Nafzawiyyat, merch Ferber a chwaraeodd ran flaenllaw yn hanes Moroco yn yr 11g.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • L’État du Maghreb (cyfranwr), la Découverte, 1990.
  • Féminisme et politique au Maghreb, Éditions Maisonneuve et Larose, 1994
  • Ferhart Abbas, une utopie algérienne (gyda Benjamin Stora), Éditions Denoël, 1995
  • Ben Barka (gyda Maati Monjib), Éditions Michalon, 1996
  • Marocains des deux rives, Éditions L’Atelier, 1997.
  • Abdelkrim, une épopée d’or et de sang, Éditions Séguier, 1999 ISBN 2-84049-144-3
  • Gibraltar, croisée de mondes et Gibraltar, improbable frontière, Éditions Séguier-Atlantica, 2002
  • De l’immigration à la citoyenneté, Éditions Mémoire de la Méditerranée, 2003
  • Zaynab, reine de Marrakech (nofel), Éditions L’Aube, 2004; ail argraffiad 2008 ISBN 978-2-7526-0488-0
  • Marocains de l’autre rive, Éditions Paris Méditerranée-Tarik, 2004
  • Casablanca en mouvement, Éditions Autrement, 2005
  • Les Années Lamalif : 1958-1988, trente ans de journalisme, Éditions Tarik et Senso Unico - 2007
  • Les petits-enfants de Zaynab (roman), Éditions de l'Aube, 2008

Dolen allanol[golygu | golygu cod]