Zadie Smith

Oddi ar Wicipedia
Zadie Smith
LlaisZadie Smith BBC Radio4 Desert Island Discs 27 September 2013 b03bg4v7.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd25 Hydref 1975, 27 Hydref 1975 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, awdur ysgrifau, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amOn Beauty, White Teeth, The Autograph Man, NW, Swing Time, Changing My Mind: Occasional Essays Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadVladimir Nabokov, Salman Rushdie Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth Edit this on Wikidata
PriodNick Laird Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Goffa James Tait Black, awdur preswyl, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Bailey's i Ferched am waith Ffuglen, Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Bollinger Everyman Wodehouse, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Medal Langston Hughes, Gwobr y Guardian am y Llyfr Cyntaf, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Medal Bodley Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.zadiesmith.com Edit this on Wikidata

Awdures o Loegr yw Zadie Smith (ganwyd 25 Hydref 1975) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig fel nofelydd ac fel awdur storiau byrion ac ysgrifau.

Ei nofel gyntaf oedd White Teeth (2000), ac fe ddaeth yn un o'r gwerthwr gorau gan ennill nifer o wobrau. Hi hefyd a ysgrifennodd Feel Free (2018), casgliad o draethodau. Mae hi wedi bod yn athro yn y Gyfadran Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Efrog Newydd ers Medi 2010.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed ar 25 Hydref 1975 ym mwrdeistref Brent yng ngogledd-orllewin Llundain, i fam o Jamaica, Yvonne Bailey, ac i Sais, Harvey Smith. Yn 14 oed, newidiodd ei henw i Zadie. Priododd Nick Laird.[1][2][3][4][5]

Magwyd mam Smith yn Jamaica, ac ymfudodd i Loegr yn 1969. Ysgarwyd ei rhieni pan oedd yn ei harddegau. Mae ganddi hanner chwaer, hanner brawd, a dau frawd iau (un yw'r rapiwr a'r digrifwr Doc Brown, a'r llall yw'r rapiwr Luc Skyz). Fel plentyn, roedd Smith yn hoff o ddawnsio tap, ac yn ei harddegau, cafodd ei hystyried yn yrfa mewn theatr gerddorol. Tra oedd yn y brifysgol, enillodd Smith arian fel canwr jazz, ac am gyfnod roedd am fod yn newyddiadurwr. Er gwaethaf yr uchelgeisiau hyn, daeth llenyddiaeth i'r amlwg fel ei phrif ddiddordeb.

Aeth Smith i ysgolion y wladwriaeth leol: Ysgol Iau Malorees ac Ysgol Gyfun Hampstead, ac yna Coleg y Brenin, Caergrawnt, lle bu'n astudio llenyddiaeth Saesneg.

Yng Nghaergrawnt, cyhoeddodd Smith nifer o straeon byrion mewn cyfrol llenyddol gan fyfyrwyr newydd, o'r enw The Mays Anthology. Fe wnaethon nhw ddenu sylw cyhoeddwr, a gynigiodd gytundeb iddi ar gyfer ei nofel gyntaf ond penderfynodd Smith gysylltu ag asiant llenyddol sef A.P. Watt, ac fe'i derbyniwyd hi ar lyfrau'r asiant.[6]

Cyfarfu Smith â Nick Laird ym Mhrifysgol Caergrawnt. Priodasant yn 2004 yng Nghapel Coleg y Brenin, Caergrawnt. Cyflwynodd Smith ei chyfrol On Beauty iddo. Mae hefyd yn defnyddio ei enw, yn gynnil, yn White Teeth.

Y llenor[golygu | golygu cod]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: On Beauty, White Teeth, The Autograph Man, NW, Swing Time a Changing My Mind: Occasional Essays.[7]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [8][9][10]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Goffa James Tait Black (2000), awdur preswyl (2000), Gwobr Llyfrau Costa (2000), Gwobr Bailey's i Ferched am waith Ffuglen (2006), Gwobr Somerset Maugham (2006), Gwobr Bollinger Everyman Wodehouse (2006), Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf (2006), Medal Langston Hughes (2017), Gwobr y Guardian am y Llyfr Cyntaf (2000), Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol (2002), Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd (2018), Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America (2023), Medal Bodley (2022)[11][12][13][14][15][16] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wood, Gaby (25 Awst 2012). "The Return of Zadie Smith". The Telegraph. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2013.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb137415367. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/mkz135z53ltm7lv. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2008.
  3. Disgrifiwyd yn: https://cartoons.osu.edu/biographical-files/.
  4. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb137415367. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad geni: "Zadie Smith". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://cs.isabart.org/person/87170. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 87170. (yn en) Internet Movie Database, Wikidata Q37312, https://www.imdb.com/, adalwyd 21 Mehefin 2019
  6. "AP Watt". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mai 2011. Cyrchwyd 7 Mawrth 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Zadie Smith to Join NYU Creative Writing Faculty", NYU, 25 Mehefin 2009.
  8. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 31 Mawrth 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/
  9. Galwedigaeth: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/ https://cs.isabart.org/person/87170. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 87170.
  10. Anrhydeddau: https://www2.societyofauthors.org/prizes/the-soa-awards/somerset-maugham-awards/. https://www.anisfield-wolf.org/winners/on-beauty/. https://www1.cuny.edu/mu/forum/2017/08/31/zadie-smith-wins-ccnys-langston-hughes-medal/. https://www.kunstkultur.bka.gv.at/staatspreis-fur-europaische-literatur. iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg. dyddiad cyrchiad: 8 Mai 2009. https://www.amacad.org/new-members-2023. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2023. https://www.bodleian.ox.ac.uk/about/libraries/bodley-medal.
  11. https://www2.societyofauthors.org/prizes/the-soa-awards/somerset-maugham-awards/.
  12. https://www.anisfield-wolf.org/winners/on-beauty/.
  13. https://www1.cuny.edu/mu/forum/2017/08/31/zadie-smith-wins-ccnys-langston-hughes-medal/.
  14. https://www.kunstkultur.bka.gv.at/staatspreis-fur-europaische-literatur. iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg. dyddiad cyrchiad: 8 Mai 2009.
  15. https://www.amacad.org/new-members-2023. dyddiad cyrchiad: 20 Ebrill 2023.
  16. https://www.bodleian.ox.ac.uk/about/libraries/bodley-medal.