Yuval Noah Harari

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yuval Noah Harari cropped.jpg
Yuval Noah Harari cropped

Hanesydd Israeliaidd ac athro yn yr Adran Hanes ym Mhrifysgol Hebraeg Jerusalem yw Yuval Noah Harari (Hebraeg: יובל נח הררי}}; ganwyd 24 Chwefror 1976).[1] Ef yw awdur y cyfrolau Sapiens: A Brief History of Humankind (2014), Homo Deus: A Brief History of Tomorrow (2016), a 21 Lessons for the 21st Century (2018). Mae ei ysgrifau yn trafod ewyllys rydd, ymwybyddiaeth a deallusrwydd.

Mae cyhoeddiadau cynnar Harari trafod yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "chwyldro dirnadol" a ddigwyddodd tua 50,000 o flynyddoedd yn ol, pan gafodd Neanderthaliaid eu disodli gan Homo sapiens, gan ddatblygu sgiliau ieithyddol a chymdeithasau strwythuredig, ac esgyn fel ysglyfaethwyr apig , gyda chymorth y chwyldro amaethyddol a gyflymwyd yn ddiweddar gan fethodoleg a rhesymeg wyddonol sydd wedi galluogi'r ddynoliaeth i gyrraedd y nesaf peth ar feistrolaeth o'u hamgylchedd.

Mae ei lyfrau diweddar yn fwy rhybuddiol, ac yn gweithio trwy oblygiadau byd biodechnolegol ble mae creadigaethau yn rhagori ar yr organebau deallus sydd wedi'u creu yn y lle cyntaf. Mae'n proffwydo y bydd Homo sapiens, fel ag yr ydym ni'n eu hadnabod, yn diflannu mewn tua chanrif.[2]

Bywgraffad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Harari yn Kiryat Ata, Israel, yn 1976 ac fe'i magwyd yn aelod o deulu Iddewig seciwlar[3] gyda gwreiddiau Libanaidd a Dwyrain Ewropeaidd yn Haifa, Israel.[4] Bu iddo gyfarfod ei wr Itzik Yahav yn 2002.[5][6] Yahav yw rheolwr personol Harari hefyd.[7] Priododd y ddau mewn seremoni sifil yn Toronto, Canada.[8] Maent yn byw mewn moshav (math o gymuned amaethyddol gydweithredol o ffermydd unigol), Mesilat Zion, ger Jerusalem.[9][10][11]

Athroniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Harari yn dweud bod myfyrdod Vipassana, y dechreuodd ei arfer pan oedd yn Rhydychen yn 2000,[12] wedi gweddnewid ei fywyd.[13] Mae'n myfyrio am ddwyawr bob dydd (awr ar ddechrau ac awr arall ar ddiwedd diwrnod o waith[14]), yn mynd i encil myfyrio am o leiaf 30 o ddiwrnodau bob blwyddyn, mewn distawrwydd a heb unrhyw lyfrau na chyfryngau cymdeithasol,[15][16] ac mae'n athro cynorthwyol sy'n hyfforddi eraill i fyfyrio.[17] Cyflwynodd ei gyfrol Homo Deus i'w athro S. N. Goenka.[18] Mae hefyd yn ystyried myfyrdod fel dull o ymchwilio.

Mae Harari yn fegan, ac yn dweud bod hyn o ganlyniad i'w ymchwil, a'i farn bod y diwydiant llaeth wedi'i seilio ar dorri'r berthynas rhwng mam a'i llo.[19] Nid yw wedi perchen ffon clyfar ers Medi 2017.[20]

Arbenigodd Harari mewn hanes y canol oesoedd a hanes milwrol yn y lle cyntaf, pan oedd yn astudio ym Mhrifysgol Hebraeg Jerusalem rhwng 1993 a 1998. Cwblhaodd ei DPhil (doethuriaeth) yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn 2002 dan oruchwyliaeth Steven J. Gunn. Rhwng 2003 a 2005 bu'n cynnal astudiaethau ol-ddoethurol fel Cymrawd Yad Hanadiv.[21]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau, gan cynnwys Special Operations in the Age of Chivalry, 1100–1550;[22] The Ultimate Experience: Battlefield Revelations and the Making of Modern War Culture, 1450–2000;[23] The Concept of 'Decisive Battles' in World History;[24] and Armchairs, Coffee and Authority: Eye-witnesses and Flesh-witnesses Speak about War, 1100–2000.[25] Mae nawr yn arbenigo mewn hanes byd a phrosesau macro-hanesyddol.

Cyhoeddwyd ei lyfr Sapiens: A Brief History of Humankind mewn Hebraeg yn 2011 ac yna yn Saesneg yn 2014; mae bellach wedi'i gyfieithu i dros 30 o ieithoedd eraill.[26] Mae'r llyfr yn bwrw golwg dros holl hanes y ddynoliaeth, o esblygiad Homo sapiens yn Oes y Cerrig i chwyldroadau gwleidyddol a thechnolegol y 21g. Daeth yr argraffiad Hebraeg yn un o'r gwerthwyr gorau yn Iseael, a chafodd lawr o ddiddordeb gan y gymuned academaidd yn ogystal a'r cyhoedd, gan ddod a chryn enwogrwydd i Harari.[27] Mae fideos YouTube video o ddarlithoedd Hebraeg Harari wedi'u eu gwylio gan ddegau o filoedd o Israeliaid.[28]

Mae Harari hefyd yn cynnal cwrs ar-lein yn Saesneg am ddim o'r enw English titled A Brief History of Humankind.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Yuval Harari site, at the Hebrew University of Jerusalem site
  2. Andrew Anthony, Lucy Prebble, Arianna Huffington, Esther Rantzen and a selection of our readers (19 March 2017). "Yuval Noah Harari: ‘Homo sapiens as we know them will disappear in a century or so’" (yn en-GB). The Observer. ISSN 0029-7712. https://www.theguardian.com/culture/2017/mar/19/yuval-harari-sapiens-readers-questions-lucy-prebble-arianna-huffington-future-of-humanity.
  3. Les prédictions de Yuval Noah Harrari, L'arche magazine
  4. Cadwalladr, Carole (5 July 2015). "Yuval Noah Harari: The age of the cyborg has begun – and the consequences cannot be known". https://www.theguardian.com/culture/2015/jul/05/yuval-harari-sapiens-interview-age-of-cyborgs.
  5. Adams, Tim (27 August 2016). "Yuval Noah Harari: ‘We are acquiring powers thought to be divine’". https://www.theguardian.com/lifeandstyle/2016/aug/27/yuval-noah-harari-we-are-quickly-acquiring-powers-that-were-always-thought-to-be-divine.
  6. "Fast Talk / The Road to Happiness". 25 April 2012. http://www.haaretz.com/israel-news/fast-talk-the-road-to-happiness-1.426554.
  7. "זה ייגמר בבכי: סוף העולם לפי יובל נח הררי". http://www.nrg.co.il/online/55/ART2/726/869.html.
  8. "Sadly, superhumans in the end are not going to be us". The Times Group. 14 October 2015. http://epaperbeta.timesofindia.com/Article.aspx?eid=31821&articlexml=Sadly-superhumans-in-the-end-are-not-going-14102015012006.
  9. "Fast Talk The Road to Happiness". 25 April 2017. http://www.haaretz.com/weekend/magazine/fast-talk-the-road-to-happiness-1.426554.
  10. Appleyard, Bryan (31 August 2014). "Asking big questions". http://www.thesundaytimes.co.uk/sto/culture/books/non_fiction/article1451491.ece.
  11. Reed, John (5 September 2014). "Lunch with the FT: Yuval Noah Harari". http://www.ft.com/cms/s/2/aee05cca-3416-11e4-b81c-00144feabdc0.html.
  12. "Yuval Harari, author of “Sapiens,” on AI, religion, and 60-day meditation retreats". https://soundcloud.com/panoply/yuval-harari-author-of-sapiens-on-ai-religion-and-60-day-meditation-retreats.
  13. Adams, Tim (27 August 2016). "Yuval Noah Harari: ‘We are quickly acquiring powers that were always thought to be divine’". https://www.theguardian.com/lifeandstyle/2016/aug/27/yuval-noah-harari-we-are-quickly-acquiring-powers-that-were-always-thought-to-be-divine.
  14. "How Humankind Could Become Totally Useless". http://time.com/4672373/yuval-noah-harari-homo-deus-interview/.
  15. "Interview - Yuval Harari". Chatham House. October–November 2015. pp. 30-32. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 December 2017. https://www.chathamhouse.org/sites/files/chathamhouse/field/field_document/Interview%20-%20Yuval%20Harari.pdf.
  16. "Yuval Noah Harari, Sapiens and the age of the algorithm". Josh Glancy. 3 September 2016. Archifwyd o y gwreiddiol ar 10 November 2016. https://web.archive.org/web/20161110213716/https://www.theaustralian.com.au/life/weekend-australian-magazine/yuval-noah-harari-sapiens-and-the-age-of-the-algorithm/news-story/dec563f94ceb523228049fdaf8ab8915.
  17. "The messenger of inner peace: Satya Narayan Goenka; New Appointments". Vipassana Research Institute. 17 December 2013. http://www.vridhamma.org/en2013-12.
  18. Homo Deus, dedication and Acknowledgements p426
  19. "Interview With Yuval Noah Harari: Masters in Business (Audio)". https://soundcloud.com/bloombergview/interview-with-yuval-noah-harari-masters-in-business-audio.
  20. "# 68 -- Reality and the Imagination". Sam Harris. 19 March 2017. https://samharris.org/podcasts/reality-and-the-imagination/.
  21. "CV at The Hebrew University of Jerusalem". 2008. http://pluto.huji.ac.il/~ynharari/cv.html.
  22. Yuval Noah Harari, Special Operations in the Age of Chivalry, 1100–1550 (Woodbridge: Boydell & Brewer, 2007)
  23. Yuval Noah Harari, The Ultimate Experience: Battlefield Revelations and the Making of Modern War Culture, 1450–2000 (Houndmills: Palgrave-Macmillan, 2008)
  24. Yuval Noah Harari, The Concept of 'Decisive Battles' in World History, in Journal of World History 18:3 (2007), 251–266.
  25. Yuval Noah Harari, "Armchairs, Coffee and Authority: Eye-witnesses and Flesh-witnesses Speak about War, 1100–2000", The Journal of Military History 74:1 (January 2010), pp. 53–78.
  26. Payne, Tom (26 September 2014). "Sapiens: a Brief History of Humankind by Yuval Noah Harari, review: 'urgent questions'". The Telegraph. https://www.telegraph.co.uk/culture/books/bookreviews/11120947/Sapiens-a-Brief-History-of-Humankind-by-Yuval-Noah-Harari-review-urgent-questions.html.
  27. Fast talk / The road to happiness, in Haaretz, 25 April 2012
  28. "A Brief History of Mankind course, in the Hebrew University of Jerusalem channel in YouTube (in Hebrew)