Yupik

Oddi ar Wicipedia
thumb

Yr Yupik neu, yn yr iaith frodorol (gweler Yup'ik (iaith)), Yup'ik, yw'r pobloedd brodorol sy'n byw ar hyd arfordir gorllewin Alaska, yn arbennig ar ddelta Afon Yukon ac Afon Kuskokwim ac ar hyd Afon Kuskokwim (Yup'ik Canolbarth Alaska), yn ne Alaska (yr Alutiiq) a dwyrain pell Rwsia ac Ynys St. Lawrence yng ngorllewin Alaska (Yupik Siberia). Maent yn bobloedd Esgimo ac yn perthyn i'r Inuit.

Yup'ik Canolbarth Alaska yw'r grŵp mwyaf niferus o lawer. Mae'r rhai sy'n byw ar Ynys Nunivak yn galw eu hunain yn Cup'ig (lluosog Cup'it). Mae'r rhai sy'n byw mewn pentrefi ar Bae Hooper a Chevak yn galw eu hunain yn Cup'ik (lluosog Cup'it).

Yn draddodiadol mae teuluoedd yn arfer treulio'r gwanwyn a'r haf mewn gwersylloedd pysgota teuluol ac yn ymuno â theuluoedd eraill yn y pentrefi am y gaeaf. Hyd at heddiw mae nifer o deuluoedd yn dal i gynhaeafu bwyd traddodiadol, yn arbennig eogiaid a morloi.