Afon Yukon
Afon yng Ngogledd America yw afon Yukon. Mae'n 3,185 km o hyd. Ceir ei tharddle gerllaw'r ffîn rhwng British Columbia a thiriogaeth Yukon, Canada. Wedi croesi'r ffîn i'r Unol Daleithiau, mae'n llifo trwy Alaska i aberu ym Môr Bering.
Ystyr y gair 'Yukon' 'yw afon mawr' yn iaith Gwich’in.[1]
Tarddiad yr afon yw Rhewlif Llewelyn, sy'n llifo i Llyn Atlin yng Ngholumbia Beydeinig. Mae gan yr afon ddalgylch o 840,000 o gilomedr sgwâr, sy'n cynnwys nifer o lynnau, megis Llyn Tagish, Llyn Lindeman, Llyn y Gors, Llyn Teslin, Llyn Laberge, Llyn Kusawa a Llyn Kluane.[1]
Ymhlith y trefi ar ei glan mae Whitehorse, Dawson City a Fort Yukon. Dim ond pedair pont sy'n ei chroesi.
Defnyddiwyd stemars olwyn ar yr afon hyd at y 1950au, hyd at gwblhad y Ffordd Klondike.[1]