Whitehorse
![]() | |
![]() | |
Math | provincial or territorial capital city in Canada, dinas ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | White Horse Rapids ![]() |
Poblogaeth | 28,201 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Laura Cabott ![]() |
Cylchfa amser | UTC−07:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Juneau, Ushiku ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Yukon ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 416.54 km² ![]() |
Uwch y môr | 670 metr, 1,700 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Yukon ![]() |
Yn ffinio gyda | Haines Junction ![]() |
Cyfesurynnau | 60.7172°N 135.0558°W ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Laura Cabott ![]() |
![]() | |

Whitehorse yw prifddinas tiriogaeth Yukon, yng ngogledd-orllewin Canada. Mae gan y ddinas boblogaeth o 24,151 (2006), sy'n cyfrif am dros 75% o boblogaeth Yukon.
Fel pen eithaf trafnidiaeth ar Afon Yukon, roedd y ddinas yn ganolfan bwysig yn Rhuthr Aur Klondike ar ddiwedd y 1880au. Mae'n brifddinas y diriogaeth er 1953, pan gafodd ei symud o Dawson City ar ôl adeiladu Priffordd Klondike. Enwir y ddinas ar ôl ffrydiau (rapids) White Horse. Adeiladwyd argae Whitehorse ym 1953, a chrewyd Llyn Chwatka, yn boddi’r ffrydiau.[1] Mae Mynydd Grey, Bryn Haeckel a Mynydd Golden Horn yn ymyl y dref.[2]
Adeiladwyd 2 dramffordd ar lannau Afon Yukon ym 1897 i hwyluso’r daith heibio i’r ffrydiau ar y ffordd i’r Klondike, a datblygodd dref o bebyll yno. Cyrhaeddodd y Rheilffordd White Pass a Yukon ym 1900.[1]
Cludiant
[golygu | golygu cod]Mae'r ddinas ar garreg filltir 918 ar Briffordd Alaska ac ar un adeg roedd yn derminws i Reilffordd White Pass a Yukon o Skagway, Alaska.
Gwasanaethir Whitehorse gan Faes Awyr rhyngwladol Erik Neilsen[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]