Ystad a Neuadd Trefalun
| Trefalun | |
|---|---|
Maenordy Trefalun | |
| Enwau eraill | Trevalyn |
| Gwybodaeth gyffredinol | |
| Statws | Gradd II* |
| Math | Maenordy |
| Arddull bensaernïol | Arddull Oes Elisabeth |
| Lleoliad | Wrecsam |
| Cyfeiriad | Yr Orsedd |
| Gwlad | Cymru |
| Torri'r dywarchen gyntaf | 16eg ganrif |
| Dechrau adeiladu | 1576 |
| Adferwyd | 1836 |
| Cynllunio ac adeiladu | |
| Perchennog | Preifat |
| Pensaer | Sion Trefor Walter Hancock |
Maenordy a thiroedd ym mhentref yr Orsedd, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Ystad neu Neuadd Trefalun (neu Drefalyn) a ystyrir yn un o brif faenordai Gogledd Cymru, ac sy'n dyddio i 1576. Codwyd y neuadd wreiddiol gan Sion Trefor (m. 1589) a oedd yn un o ddisgynyddion Tudur Trefor ("Brynkynallt") o'r 10g. Lleolir Ystâd Trefalun bellach ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, ond arferai fod yn ardal Maelor, yn yr hen Sir Ddinbych.
Oherwydd ei bwysigrwydd pensaernïol, cofrestrwyd y maenordy ac adeiladau eraill, allanol, gan Cadw yn Radd II* ar 6 Medi 1952, yn bennaf oherwydd ei arddull Elisabethaidd a'i gysylltiad gyda'r Treforiaid.[1]
Mae'n fwy na phosib mai Sion Trefor ei hun, gyda chymorth y prif saer (neu 'bensaer' erbyn heddiw) Walter Hancock o Much Wenlock a gynlluniodd y maenordy gwreiddiol. Roedd Sion wedi etifeddu'r ystâd gan ei hen daid, Richard Trefor, pan briododd hwnnw Matilda, merch Siencyn ap Dafydd ap Gruffud o Drefalyn. Yn Llundain y gwnaeth Sion Trefor ei ffortiwn, ac roedd yn gyfaill agos i Thomas Sackville, Arglwydd Buckhurst, Howard o Effingham ac Iarll Dorset cefnder ei wraig. Erbyn 1600 roedd gan deulu'r Treforiaid nifer o faenordai eraill, gan gynnwys Plas Teg yn yr Hôb, Sir y Fflint a brynnwyd gan Syr John Trevor I (1563–1630) ac ef hefyd a gododd maenordy Plas Teg yn 1610. Ei fab hynaf, Richard Trefor (1558 - 1638) a etifeddodd y tŷ, ond gwell oedd ganddo dreulio'i amser ym Mhlas y Roft, ym Marford.[2]

Mae rhai o'r hen ffosydd o amgylch y parciau ceirw, a greewyd yr un pryd a'r plasty yn 1576, yn dal i'w gweld heddiw.
Yn y 1670au, etifeddodd y Treforiaid "Glynde Place" yn Sussex, a ddaeth, wedi hynny, yn brif gartre'r teulu. Cadwyd Trefalun gan stiwardiaid ac asiantiaid y teulu. Yn 1836 atgyweiriwyd y tŷ a chodwyd y Porter's Lodge; cynlluniwyd y gwaith gan besaer lleol o'r enw Thomas Jones. Gwerthwyd yr ystad yn y 1980au athrowyd yr adeilad yn ddwy fflat.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Trevalyn Hall (including former lodge), Rossett". British Listed Buildings. Cyrchwyd 5 Awst 2016.
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.