Ysgubor Galisiaidd

Oddi ar Wicipedia
Ysgubor ar golofnau carreg yn Pontevedra.
Ysgubod ar golofnau llydan yn Oroso.
Ysgubor pren (a tho teils) ar golofnau carreg yn ardal Vedra.

Adeilad amaethyddol (neu 'granar') i gadw india corn yn sych yng Ngalisia yw Ysgubor Galisiaidd. Fe'i cynlluniwyd mewn modd sy'n caniatáu i aer symud drwyddo lle bod y cnwd oddi fewn yn pydru, ac er mwyn atal anifeiliaid fel llygod rhag eu difa.[1]

Ceir hyd i'r Sgubor Galisiaidd ar hyd a lled y wlad, ac mewn rhai mannau yng ngogledd Portiwgal. Maent i'w gweld yn ne-ddwyrain Galisia gan mwyaf ac yn yr ardaloedd arfordirol. Ceir nifer o enwau Galisieg am y sgubor hwn gan gynnwys "hórreo" yng nghanol a gogledd y wlad, "cabazo" yn y gogledd-orllewin a "canastro" neu 'fasged' yn y de.[2]

Colofn dal sgubor Galisiaidd, o Bortiwgal. Ceir y math hwn o golofn yng Nghymru, hefyd.

Mae'r darlun cyntaf a geir ohonynt i'w ganfod yn Cantigas de Santa Maria, ac mae'n dyddio'n ôl i'r 13g. Mae'r ysgubor a ddarlunir yn debyg iawn i'r ysguborion a welir heddiw - siambr hir, petrual ar bedair colofn.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Gwartheg Cochion Galisia

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Lorenzo Fernández, X. A terra. Editorial Galaxia, 1982. ISBN 84-7154-407-5, 9788471544070.
  2. López Soler, J. Los hórreos gallegos. Sociedad Española de Antropología, Etnografía y Prehistoria. Actas y Memorias, tomo X, cadernos 1º e 2º. Madrid, 1931. Facsímile reproducido como anexo a Frankowski, E. Hórreos y palafitos de la Península Ibérica. Edición facsímile. Ediciones Istmo. Madrid, 1986. ISBN 84-7090-168-0.