Gwartheg Cochion Galisia

Oddi ar Wicipedia
Buwch Goch Galisia

Brid o wartheg sy'n frodorol i Galisia, yn Sbaen yw Gwartheg Cochion Galisia (Sbaeneg: Rubia Gallega, Galisieg: Rubia Galega). Mae'r enw hefyd yn cyfeirio at ei liw, sy'n amrywio o liw hufen i goch euraidd.[1] Fe'i megir ar gyfer cig eidion yn bennaf,[2] er, yn draddodiadol, defnyddir y llefrith i gynhyrchu caws Tetilla.[3] Mae cofrestr y brid wedi bodoli ers 1933,[2] ac efallai y bu rhywfaint o groesfridio achlysurol gyda Simmental, Brown Swiss a South Devons yn y 1900au.[1]

Lleolir tri-chwarter y brid yn Lugo, a cheir cryn dipyn yn Corunna hefyd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Breeds of Livestock - Galician Blond". ansi.okstate.edu/breeds. Adran Gwyddorau Anifeiliaid Prifysgol Talaith Oklahoma. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-22. Cyrchwyd 2015-06-13.
  2. 2.0 2.1 "Domestic Animal Diversity Information System". FAO.[dolen marw]
  3. Fletcher, Janet (15 Mehefin 2006). "A cheese to please those who like it mild". The San Francisco Chronicle.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: