Ceunant Sil

Oddi ar Wicipedia

Ceunant yng Ngalisia yw Ceunant Sil (Galiseg: Canón do Sil) a wnaed gan Afon Sil. Y ceunant yw rhan olaf taith yr afon cyn iddi lifo mewn i Afon Minho, ac mae'n 50 km o hyd. Ystyrir yr olygfa fel un o'r rhai gorau yng Ngalisia.[1]

Cwyd waliau'r ceunant 500m o lefel y môr - bron yn fertig ar adegau. Oherwydd y tirwedd anghyffredin, ceir yma hinsawdd tra gwahanol i'r amgylchedd o gwmpas y ceunant a cheir yma blanhigion mwy cyfandirol, fel yr olewyddan.[2] Mae ochrau'r ceunant mewn rhai llefydd wedi'i trin gan amaethwyr a cheir terasu sy'n caniatáu i'r winwydden dyfu. Tyfir grawnwin yma ers 'cyfnod y Rhufeiniaid a gelwir yr ardal yma lle gwneir gwin yn Ribeira Sacra. Hwn yw'r unig ardal yng Ngalisia sy'n potelu y mwyaf o win coch nag o win gwyn.[1]

Mae'r ardal wedi'i chofrestru yn Natura 2000 ac ynddi cir ardaloedd o ddiddordeb arbennig a chadwraethol - o ran anifeiliaid (dyfrgwn ac ystlumod yn arbennig), daeareg anghyffredin a phlanhigion prin.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Canon de Rio Sil Archifwyd 2018-06-18 yn y Peiriant Wayback. www.roughguides.com; adalwyd 23 Mehefin 2015
  2. El Cañon del Sil Archifwyd 2015-08-16 yn y Peiriant Wayback. Parada de Sil
  3. El Cañon del Sil Archifwyd 2015-02-01 yn y Peiriant Wayback. Natura 2000