Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn y Deyrnas Unedig yn swydd yn y cabinet sydd a chyfrifoldeb am yr Adran Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Cyfryngau. Crewyd y swydd ym 1992 gan John Major fel Ysgrifennydd Gwladol Treftadaeth Genedlaethol, a newidiodd i'r teitl newydd ar 14 Gorffennaf, 1997. A newidiodd i'r teitl Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon rhwng 12 Mai, 2010 a 4 Medi2012 Y gweinidog cyntaf i ymgymryd â'r swydd oedd David Mellor. Maria Miller sy'n cyflawni'r swydd ar hyn o bryd.