Neidio i'r cynnwys

Ysgol Steiner Eryri

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Steiner Eryri
Enghraifft o'r canlynoladeilad ysgol, plasty gwledig Edit this on Wikidata
Rhan oTremadoc Estate Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1800s Edit this on Wikidata
LleoliadPorthmadog Edit this on Wikidata
PerchennogWilliam Alexander Madocks Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthPorthmadog Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ysgol Steiner ar gyfer plant iau oedd Ysgol Steiner Eryri, a agorwyd ym Mhlas Tan-yr-Allt, Tremadog, Gwynedd ym 1985. Hon oedd yr ail ysgol Steiner yng Nghymru, ar ôl Ysgol Nant-y-Cwm, Clunderwen, Sir Benfro. Newidiwyd ei henw i Ysgol Steiner Tan-yr-Allt, yn fuan cyn iddi gau, tua 2000.

Prynwyd Plas Tan-yr-Allt gan William Alexander Madocks yn 1798, a trawsnewidwyd i fod yn un o dai cynharaf Cymru o gyfnod y Rhaglywiaeth. Cafodd ei rhentu gan y bardd Seisnig Percy Bysshe Shelley o 1812 hyd 1816. Prynwyd yn ddiweddarach gan teulu Greaves a oedd yn berchen ar chwarel lechi ym Mlaenau Ffestiniog.[1] Tŷ haf yw hi erbyn hyn.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  04 Tan yr Allt. Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Adalwyd ar 28 Mehefin 2008.
  2.  Plas Tan-yr-Allt Holiday House. Plas Tan-yr-Allt. Adalwyd ar 28 Mehefin 2008.