Ysgol Penybryn, Tywyn

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Penybryn
Sefydlwyd 1860 (Towyn British School)
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Menna Wynne Pugh
Lleoliad Ffordd Cadfan, Tywyn, Gwynedd, Cymru, LL36 9EF
AALl Cyngor Gwynedd
Disgyblion 211 (ym Medi 2012, gan gynnwys 12 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin)
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Gwefan http://www.pbtywyn.gwynedd.sch.uk/

Ysgol gynradd Gymraeg yn Nhywyn, Gwynedd, yw Ysgol Penybryn.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Fel yr awgryma'r enw, saif Ysgol Penybryn ar fryncyn nid nepell o ganol hanesyddol tref Tywyn.

Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys tref Tywyn ac (er Medi 2013) pentref Aberdyfi. Mae'r ysgol yn bwydo Ysgol Uwchradd Tywyn.

Yn 2010, deuai tuag 11% o'r disgyblion o aelwydydd oedd â'r Gymraeg yn brif iaith.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorwyd yr ysgol yn 1860 dan yr enw 'Towyn British School'. Yr adeilad gwreiddiol yw bloc gogleddol yr ysgol bresennol; adeiladwyd y prif floc arall yn 1900. Yn wreiddiol, tŷ'r prifathro oedd y tŷ sy'n dal i sefyll yn union i'r gogledd i'r ysgol.[2]

Yn ystod y 1860au, defnyddid y 'Welsh stick' (ffurf ar y Welsh Not) er mwyn cosbi plant a gafwyd yn siarad Cymraeg. Ond ymddengys na fu'r ymdrech hon i rwystro plant rhag siarad yr iaith yn llwyddiannus iawn.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Adroddiad ar Ysgol Penybryn, Tywyn, 4 Mai 2010, Estyn.
  2. Robert Evans, Penbryn School, Tywyn, Gwynedd: Archaeological Assessment Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. (Gwynedd Archaeological Trust Report No.1048, May 2012), p. 6.
  3. Archifdy Meirionnydd, Gwasanaeth Archifau Gwynedd, Llyfr Log Ysgol Brydeinig Towyn, Sir Feirionnydd, 1863-76 Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback., Casglu'r Tlysau[dolen marw].

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]