Ysgol Gymraeg Rhosafan
Gwedd
Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan | |
---|---|
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Lleoliad | Rhodfa'r Mor, Traethmelyn, Porth Afan, Cymru, SA12 7NN |
AALl | Cyngor Castell Nedd Porth Talbot |
Disgyblion | 365[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 4–11 |
Ysgol gynradd gymraeg ei hiaith yn Nhraethmelyn, Porth Afan, yw Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan, ar gyfer plant 4 i 11 oed. Hwn yw'r unig ysgol i ddarparu addysg gynradd gymraeg i ardal tref Porth Talbot a chwm Afan.
Agorwyd yr ysgol ym Medi 1987. Cyn hyn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontrhydyfen oedd yr unig ysgol gymraeg ar gyfer yr ardal. Symudwyd yr ysgol o Bontrhydyfen i Rhosafan a dinistriwyd adeiladau'r hen ysgol.
Roedd 365 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2013.[1]
Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Gyfun Ystalyfera.