Ysgol Gyfun Gŵyr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ysgol Gyfun Gwyr)
Ysgol Gyfun Gŵyr
Arwyddair Gorau byw, cyd-fyw
Sefydlwyd 1984
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg
Pennaeth Mr Dafydd Jenkins
Cadeirydd Miss Aldyth Williams
Lleoliad Stryd Talbot, Abertawe, Sir Abertawe, Cymru, SA4 3DB
AALl Cyngor Dinas Abertawe
Disgyblion 924[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Branwen, Caradog, Dylan, Gwenllian, Llŷr, Nudd, Olwen, Peredur.
Gwefan www.yggwyr.org.uk/

Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Nhre-gŵyr, sir Abertawe, De Cymru, yw Ysgol Gyfun Gŵyr.

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 1984. Cyn hynny, bu'n rhaid i blant Abertawe deithio i Ysgol Gyfun Ystalyfera er mwyn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Pennaeth cyntaf oedd Mr. Vivian Thomas, ac fe'i olynwyd gan Dr T. Neville Daniel. Ar ymddeoliad Dr. Daniel yn 2002, penodwyd Mrs. Katherine J. Davies yn Bennaeth ar yr ysgol. Yn dilyn secondiad o ddwy flynedd iddi i Lywodraeth Cymru, penodwyd Mr Dafydd Jenkins yn Bennaeth Gweithredol ar yr Ysgol. Gwnaed y penodiad hwn yn barhaol ym mis Ebrill 2019.

Bellach y mae'n un o ddwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ninas a Sir Abertawe. Sefydlwyd ei chwaer ysgol, sef Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, yn 2003 er mwyn ymateb i'r cynnydd aruthrol a fu yn y sector cyfrwng Gymraeg. Yr ysgolion cynradd sy'n bwydo Ysgol Gyfun Gŵyr yw Ysgol Gymraeg Bryniago, Ysgol Gymraeg Pontybrenin, Ysgol y Login Fach, Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, ac Ysgol Gynradd Bryn-y-mor.

Ym mis Mawrth 2009, cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y bydd gan yr ysgol Ganolfan Addysgu Arbenigol er mwyn diwallu anghenion arbennig disgyblion rhwng 11 a 18 oed. Agorwyd hon ym mis Medi 2009.[2]

Ym mis Mai 2011, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad data a ddangosai sut y gwnaeth disgyblion yr ysgol yn eu arholiadau TGAU o'u gymharu â'r targedau a osodwyd i'r disgyblion pan oeddent yn 11 oed. Daeth yr ysgol yn ail yng Nghymru gyda gwerth atodol o 17.48.[3]

Canlyniadau Arolwg Estyn 2011[golygu | golygu cod]

Yn Adroddiad Arolygaeth Estyn ym mis Ionawr 2011, dywedwyd bod yr ysgol yn "rhagorol" gyda disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 yn cyflawni'n eithriadol.[4]

Cyn-ddisgyblion nodedig[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [1] Adalwyd ar 27-04-2019
  2. [2][dolen marw] Gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 02-04-20011
  3. Secondary school performance in Wales revealed Ciaran Jenkins. Gwefan BBC News. 20-05-2011. Adalwyd ar 28-06-2001
  4. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Estyn 2011
Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.