Lowri Morgan
| Lowri Morgan | |
|---|---|
| Ganwyd | 1975 Tre-gŵyr |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyflwynydd, rhedwr marathon |
| Gwefan | http://www.lowrimorgan.com/ |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Anturiaethwraig, athletwraig eithaf, a chyflwynwraig deledu o Gymru yw Lowri Morgan (ganwyd 29 Ionawr 1975).
Daw yn wreiddiol o Abertawe a mynychodd Ysgol Gyfun Gŵyr[1] cyn parhau a'i hastudiaethau gan wneud gradd yng Ngherddoriaeth. Bellach mae Lowri wedi mwynhau gyrfa fel cyflwynwraig ar raglenni chwaraeon, rhaglenni plant a rhaglenni dogfen, ac mae wedi ennill sawl gwobr. Mae'i gwaith teledu wedi'i galluogi i ymweld â llefydd megis diffeithdir Namib a lleoliadau pencampwriaeth ralio ryngwladol.
Mae hi hefyd yn un o 80 o bobl yn unig sydd wedi deifio i weld gweddillion y Titanic.[2]
Yn 2025, hi oedd llywydd Dydd Mawrth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Dur a Môr.[3]
Mae hi wedi cyhoeddi llyfr am ei hanturiaethau rhedeg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lowri's Surprise Birthday Treat Captured on Live TV Archifwyd 2016-03-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Fferm Clyne. Adalwyd 31-07-2009
- ↑ Morgan's frigate filmed on ocean bed Wales Online. 26-10-2004. Adalwyd ar 31-07-2009
- ↑ "Eisteddfod yr Urdd 2025: Dydd Mawrth". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 27 Mai 2025.
| Gwybodaeth o Gwales |
|
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Lowri Morgan ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |