Neidio i'r cynnwys

Ysgol Dafydd Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Dafydd Llwyd
Sefydlwyd 2001
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Siân Davies
Lleoliad Lôn y Blanhigfa / Lôn Dolfor, Y Drenewydd, Powys[1], Cymru, SY16 1JF
AALl Cyngor Sir Powys
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Gwefan http://www.dafyddllwyd.powys.sch.uk/

Ysgol gynradd cyfrwng Gymraeg yn y Drenewydd yw Ysgol Dafydd Llwyd, ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed. Hon oedd yr ysgol ddynodedig Gymraeg gyntaf yng ngogledd Powys. Agorwyd ar 28 Medi 2001, gyda Penri Roberts yn brifathro,[2] sef enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001.[3] Yn Ionawr 2016 agorwyd ysgol newydd sbon, ar gost o £8.5m ac roedd 250 o ddisgyblion ar y gofrestr.[4]

Enwyd yr ysgol ar ôl y bardd Dafydd Llwyd ab Einion a fu'n byw yn yr ardal tua 1446.[5][6]

Yn 2010, adroddodd Estyn fod yr ysgol yn gweithedu mewn pump o adeiladau ar wahân, ar yr un campws a dwy ysgol arall, gan gynnwys dau gaban dros dro.[7] Datganwyd ar 14 Chwefror 2012 y byddai adeilad newydd yn cael ei godi ar ei chyfer gyferbyn â'r ysgol uwchradd.[8] Erbyn 2010, roedd 149 o ddisgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys disgyblion oed meithrin amser llawn, a daeth 38% ohonynt o gartrefi ble roedd y Gymraeg yn brif iaith y cartref.[7] Bydd lle i 270 o ddisgyblion yn adeilad newydd yr ysgol.[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Gwefan swyddogol yr ysgol; adalwyd Mawrth 2016
  2. ↑  Ymddeoliad Penri'r pennaeth. BBC Lleol > Seren Hafren (Awst 2004).
  3. ↑  Rhestr Awduron Cymru: Roberts, Penri. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.
  4. ↑ countytimes.co.uk;[dolen farw] adalwyd Chwefror 2016
  5. ↑  Newyddion : Pwy oedd Dafydd Llwyd ? Who was Dafydd Llwyd?. Ysgol Dafydd Llwyd (8 Tachwedd 2009).
  6. ↑  Agor ysgol Gymraeg newydd ym Mhowys. BBC Newyddion (28 Medi 2001).
  7. 1 2  Adroddiad Arolygiad Ysgol Dafydd Llwyd, 2010. Estyn (Rhagfyr 2010). Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.
  8. 1 2  Cymeradwyo ysgol Gymraeg. BBC Newyddion (14 Chwefror 2012).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]