Ysgol Bryn Elian
Gwedd
| Ysgol Bryn Elian | |
|---|---|
| Arwyddair | Llwyddiant i Bawb |
| Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Saesneg |
| Pennaeth | Eithne Hughes |
| Lleoliad | Windsor Drive, Hen Golwyn, Sir Conwy LL29 6HU, Cymru |
| AALl | Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
| Disgyblion | 815[1] |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 11–18 |
| Llysoedd | Glaslyn (glas) Llydaw (coch) Idwal (melyn) Dulun (Gwyrdd) Cwellun (porffor) |
| Lliwiau | Glas; ysgafn a thywyll |
| Gwefan | http://www.brynelian.conwy.sch.uk/ |
Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ym Mae Colwyn, Sir Conwy ydy Ysgol Bryn Elian. Mae'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 18 oed yn yr ardal i'r dwyrain o Fae Colwyn, yn cynnwys Hen Golwyn, Llanddulas a Llysfaen.[2]
Y brifathrawes bresennol yw Eithne Hughes. Sefydlwyd yr ysgol yn y 1970au a daeth yn ysgol gyfun yn 1988. Cyflwynir Bagloriaeth Cymru yn y Chweched Ddosbarth.[2]
Mae'r ysgolion cynradd canlynol yn nhalgylch yr ysgol: Ysgol Cynfran (Llysfaen); Ysgol Hen Golwyn (Hen Golwyn), Ysgol Llanddulas (Llanddulas) ac Ysgol Tan Y Marian (Llysfaen).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-28. Cyrchwyd 2010-01-29.
- ↑ 2.0 2.1 "Gwybodaeth am yr ysgol ar ei gwefan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-28. Cyrchwyd 2010-01-29.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan yr ysgol
- Adroddiadau Estyn Archifwyd 2009-07-06 yn y Peiriant Wayback