Ysgol-lys cyffredin
Ysgol-lys cyffredin Nardia scalaris | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Jungermanniaceae |
Genws: | Nardia |
Rhywogaeth: | N. scalaris |
Enw deuenwol | |
Nardia scalaris |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Ysgol-lys cyffredin (enw gwyddonol: Nardia scalaris; enw Saesneg: ladder flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, yr Alban, Iwerddon a Lloegr.
Gellir gweld y rhywogaeth hon wedi ffurfio matiau neu dywarchenau lloweddol gyda'r coesynnau yn amrywio o wyrdd gwelw i arlliwiau o borffor coch a phorffor twyll. Mae'r coesynnau hyd at 1.5 mm o led, fel arfer 1–2 cm o hyd.
Fel arfer fe'i gwelir yn tyfu ar bridd llaith, asidig, lle gall ffurfio matiau tenau ond helaeth. Fe'i ceir fel arfer ar ffiniau llwybrau graean, mewn chwareli a manau clir ger ffyrdd coedwig, ar sgri mân ac yn ffurfio clustogau trwchus mewn ardaloedd o eira hwyr.
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9a/Nardia_scalaris_%28a%2C_113308-471247%29_7644.jpg/220px-Nardia_scalaris_%28a%2C_113308-471247%29_7644.jpg)
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg/12px-Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/c4/Llen-Natur-1-transparent.png/45px-Llen-Natur-1-transparent.png)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.