Yr Owredd

Oddi ar Wicipedia
Yr Owredd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9465°N 2.8091°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ457390 Edit this on Wikidata
Map

Plasdy Cymreig ger pentref Hanmer yn y Maelor Saesneg (bwrdeisdref sirol Wrecsam heddiw) oedd Yr Owredd. Er iddo gael ei godi bron ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr roedd yn adnabyddus am y croeso Cymraeg ar ei aelwyd.

Yr Owredd oedd prif aelwyd yr Hanmeriaid am genedlaethau, ond ni wyddom pryd yn union y codwyd y plasdy cyntaf ar y safle.

Codwyd plas newydd ar y safle yn yr 16g gan Rhisiart Hanmer, un o ddisgynyddion David Hanmer, brawd Margaret Hanmer, gwraig y Tywysog Owain Glyndŵr. Tŷ coed a brics oedd Yr Owredd. Fe'i codwyd tua hanner milltir o eglwys Hanmer ar ddarn o dir a amddiffynid gan lyn bychan o'i amgylch.[1]

Ymwelai rhai o feirdd amlycaf yr uchelwyr â'r Owredd, yn cynnwys Gutun Owain a Tudur Aled. Rhydd Tudur ddisgrifiad da ohono. Roedd yn adeilad hardd tair llawr gyda tho o slaets coed derw. Roedd pont bren iddo dros y llyn. Dyma rannau o'r cywydd sy'n ei ddisgrifio:

Tair llofft uwch y tŷ a'r llyn,
Trwy wythi'r tir a weithyn':
Pyst union a'u pwys tanaw
Yn ais y llyn is eu llaw;
Paris neu Fenis un fodd,
Pont a phen, pand da ffynnodd?

Y tŵr gwyn, chwarterog ais,
Uwch i'w weld na Chalais;
Uwch yw'r gwŷdd na chreigiau Is,
Uwch yw'r gwydr na chraig Idris.
Derw sy yn wisg dros ei nen,
A fyrthyliwyd wrth heulwen.[2]

Mae'r hen blasdy wedi mynd erbyn heddiw. Mae'r enw ei hun yn dipyn o ddirgelwch. Ceir pentref bychan o'r enw Little Owray yn y cyffiniau. Cynigiodd T. Gwynn Jones mae Cymreigiad o enw Saesneg, sef Overheath, yw'r enw.[3] Cofir hefyd fod pentref Wrtyn neu 'Owrtyn' gerllaw; yr hen enw Saesneg ar y pentref hwn oedd 'Overton' ('Owrtyn' oedd y sillafiad yn 1527).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), t.17
  2. Tudur Aled, dyfynnir yn Tai Uchelwyr y Beirdd, tud. 16.
  3. T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled, cyfrol II (Caerdydd, 1926), tud. 589.
  4. Hywel Wyn Owen; Richard Morgan. Dictionary of the Place-Names of Wales. Gwasg Gomer, 2007; tudalen 355. ISBN 978-1-84323-901-7