Ynyshir Hall

Oddi ar Wicipedia
Ynyshir Hall
Mathplasty Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolystâd Ynys-hir Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.544797°N 3.945595°W Edit this on Wikidata
Map

Mae hen blasdy Ynyshir Hall wedi ei leoli oddi ar y ffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth yn Eglwys Fach, Ceredigion. Mae rhannau o'r tŷ yn dyddio o'r 15g, ond ei berchennog cyntaf y gwyddom amdano oedd David Lloyd, a fu'n byw yno yn ystod y 17g. Adeiladodd ei fab, John Lloyd, yr eglwys yn y pentref a elwir heddiw yn Eglwys Fach, ac mae arfbais y teulu i'w weld yno. Daeth y tŷ i berchnogaeth y teulu Knowles, a daeth Thomas Knowles yn Faer Ceredigion yn 1693 ac yn Uchel Siryf Ceredigion yn 1698. Etifeddodd ei ferch Ynyshir, a gwerthodd hi'r tŷ i'w thenant John Hughes. Gwethodd ef y tŷ yn y 1700au i Matthew Davies o ystâd Cwm Cynfelyn, a daeth Matthew yn Uchel Siryf Ceredigion yn 1790.

Ynyshir Hall, yr adeilad gwyn ar dde'r llun yng nghanol y coed. (Llun gan Chris Denny.)

Arhosodd y tŷ yn y teulu am gryn amser cyn i'r Frenhines Victoria gael gafael arno. Adnewyddodd y tŷ a rhoddodd llawer o ymdrech i sefydlu'r gerddi yno; mae nifer o'r coed a blannwyd ganddi yn dal iw gweld hyd heddiw. Yn ddiweddarach bu A. G. W. Cosins yn byw yno hyd 1874, ac mae'n debyg y bu George Paddock, JP, DI, farw yno yn 1895. Tuag at ddiwedd y 19g, prynodd Uwchgapten Taunton y tŷ, a daeth yn Uchel Siryf Ceredigion yn 1903. Gwerthwyd ef yn 1921 i Oliver Cross, mab teulu a oedd yn berchen ar felinoedd yn Swydd Gaerhirfryn, ac yn 1928 gwerthwyd y tŷ i William Hubert Mappin a weithiodd ar y gerddi; gwerthwyd 1000 acer o'r stâd i'r RSPB ar ei farwolaeth yn 1966, ac a drowyd yn warchodle natur RSPB Ynys-hir. Yn fuan wedi hyn, prynnwyd y tŷ ynghyd â'r 14 acer o dir a oedd yn weddill i Sam Roberts, pencampwr golff amatur Cymru, a throwyd y tŷ'n westy. Wedi newid dwylo nifer o weithiau, mae'r gwesty heddiw yn eiddo i Rob a Joan Reen, a drodd e'n Westy Gwledig o safon uchel yn 1989.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]