Ynys y Bîg
Gwedd
Ynys y Bîg o ffordd Biwmares | |
| Math | ynys |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.2335°N 4.151°W |
![]() | |
Ynys fechan sy'n gorwedd yn Afon Menai, yw Ynys y Bîg. Saif yng nghymuned Cwm Cadnant.
Fe'i cysylltir ag Ynys Môn gan sarn ac mae'n eiddo preifat. Rhed y sarn o dir tŷ preifat, a elwir yn Ynys y Bîg yn ogystal, ac felly ni cheir mynediad i'r cyhoedd.
Mae'r ynys yn gorwedd tuag 1 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Bont Menai. Gorchuddir yr ynys gan goedwig. Mae'n nythfa i grehyrod glas.
