Crëyr glas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Crëyr Glas
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Ciconiiformes
Teulu: Ardeidae
Genws: Ardea
Rhywogaeth: A. cinerea
Enw deuenwol
Ardea cinerea
Linnaeus, 1758
Penglog
Ardea cinerea

Mae'r Crëyr Glas (Ardea cinerea) yn un o deulu'r Ardeidae, y crehyrod. Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop ac Asia.

Nid yw'r Crëyr Glas yn aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n byw yn y rhan ogleddol o Ewrop ac Asia yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin yn y gaeaf. Mae'n aderyn mawr, 1 m o daldra a 1.5 m ar draws yr adenydd, gyda gwddf hir a thenau. Mae'r plu yn llwydlas ar y cefn ac yn wyn oddi tano.

Fel rheol mae'r Crëyr Glas yn nythu mewn coed gweddol uchel, heb fod ymhell o lyn, afon neu rywle arall y gellir dal pysgod. Maent yn nythu gyda'i gilydd fel rheol, yn ffurfio "creyrfa", a gallant ddefnyddio yr un coed am flynyddoedd lawer. Ambell dro gallant nythu ar lawr lle mae'n ddiogel gwneud hynny.

Pysgod bach a llyffantod yw eu bwyd fel rheol, ac maent yn eu dal drwy aros yn llonydd ger y dŵr nes gweld cyfle i drywanu'r prae gyda'r pig hir a miniog. Ambell dro gellir eu gweld mewn caeau yn hela llygod ac anifeiliaid bychain eraill, ac mae cofnodion amdanynt yn bwyta adar gweddol fawr.

Creyrfeydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall creyrfeydd barhau am gyfnodau hir iawn ond mae yna rai hanesyddol nad ydynt mwyach. Dyma enghraifft:

Bodedern 23 Mawrth 1925: to Holyhead. visited Heronry at Treiorwerth, Bodedern, about a dozen nests, birds came off some nests, apparently eggs but failed to climb up. Other nests looked half finished.[1]

Mae papur gan Max Nicholson (1928) yn rhestru creyrfeydd Cadnant a Threiorwerth fel yr unig greyrfeydd gweithredol ym Môn y pryd hwnnw. Daeth y greyrfa i ben yn 1986 yn ôl y son.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dyddiadur di-enw o Tywyn, Abergele 1922-1942