Ymddygiadaeth
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Damcaniaeth yn y gwyddorau cymdeithas, seicoleg yn bennaf, yw ymddygiadaeth sydd yn defnyddio dulliau empirig i ddeall ymddygiad bodau dynol, cymdeithas, ac anifeiliaid yn wrthrychol.[1]
Hanes athroniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Dangosai ffurf gynnar ar ymddygiadaeth yn Leviathan (1651) gan Thomas Hobbes, sydd yn dadlau taw pleser a phoen sydd yn rheoli ymddygiad dynol. Bu'r safbwynt hwn yn gwrthddweud yr hen athronwyr, megis Aristoteles, a roddai pwyslais ar allu rhesymu, a chred y diwinyddion Cristnogol, megis Tomos o Acwin, taw ffydd a moesoldeb sydd yn rheoli ymddygiad.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ ymddygiadaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Mai 2018.