Neidio i'r cynnwys

Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru

Ymddiriodolaeth GIG yng Ngymru oedd Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin (Saesneg: Carmarthenshire NHS Trust). Roedd pencadlys yr ymddiriedolaeth yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin. Mae pencadlys Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn Hwlffordd, Sir Benfro. Nid yw'n bodoli mwyach fel corff.

Gwasanaethodd yr ymddiriedolaeth tua 170,000 o bobl ar draws Sir Gaerfyrddin a siroedd cyfagos. Roedd ganddo ddau brif ysbyty, Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, ac Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, gyda gwasanaethau damweiniau ac achosion brys. Roedd pedwar ysbyty cymunedol llai.

Roedd gan Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin dros 3,200 o staff. Y cadeirydd oedd Mrs Margaret Price, a'r prif weithredwr oedd Paul Barnett.

Cyfunodd ag Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen ym mis Ebrill 2008.[1] Yr enw ar yr ymddiriedolaeth sydd newydd uno yw Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda.

Enwyd y corff newydd wedi'r Brenin Hywel Dda o'r 10g a luniodd Cyfraith Hywel Dda o'i bencadlys yn Hendy-gwyn ar Daf sydd yng rhan o ardal yr ymddiriedolaeth newydd.

Ysbytai Cyffredinol

[golygu | golygu cod]

Roedd ysbytai cyffredinol fel a ganlyn:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Health trust mergers are agreed". BBC. 19 December 2007. Cyrchwyd 11 February 2019.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]